Gorsedd Brân
Bryn yn Sir Ddinbych ydy Gorsedd Brân, sy'n gorwedd 2 filltir i'r de-orllewin o Nantglyn. Uchder: 518 metr. Ceir tri safle archaeolegol ar ei lethrau, sef dwy garnedd ger pen gogledd-ddwyreiniol y bryn ac un arall ar y pen gorllewinol, pwynt uchaf y bryn.
Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 518 metr |
Cyfesurynnau | 53.129037°N 3.536355°W |
Cod OS | SH9691959755 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 120 metr |
Rhiant gopa | Mwdwl-eithin |
Cadwyn fynydd | Mynydd Hiraethog |
Ceir carnedd lwyfan ar ben gogledd-ddwyreiniol y bryn sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd; cyfeiriad grid SH973602. Dylid cofio nad cylch cerrig fel y cyfryw yw carneddi llwyfan, fodd bynnag, gan fod y rheiny o oes wahanol ac yn cael eu defnyddio i bwrpas gwahanol. Mae'n bosibl i seremoniau neu ddefodau gael eu cynnal ar y safle yn ogystal â chladdedigaeth.[1] Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r rhif SAM: DE168.
Ni wyddys a ydy enw'r bryn yn cyfeirio at y cymeriad mytholegol Brân neu beidio, ond ceir Llyn Brân wrth droed y bryn, i'r gorllewin. Ceir sawl gŵr o'r enw Brân yn hanes cynnar Cymru hefyd.