Nantglyn
Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Nantglyn ( ynganiad ). Saif rhyw 4.5 milltir o dref Dinbych ac ychydig i'r gorllewin o Fynydd Hiraethog. Ychydig llai na milltir i'r gogledd-orllewin mae Waen, Nantglyn.
![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1474°N 3.49°W ![]() |
Cod SYG | W04000170 ![]() |
Cod OS | SJ003621 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Saif Nantglyn ar Afon Ystrad, sy'n llifo i mewn i Afon Clwyd. Mae afon lai, Afon Lliwen, yn ymuno a'r Ystrad ger y pentref. Mae traddodiad fod clas wedi ei sefydlu yma gan Mordeyrn, ŵyr i Gunedda Wledig. Ymhlith hynodion y pentref mae'r "pulpud mewn coeden", a ddefnyddiwyd unwaith gan John Wesley yn ôl y traddodiad. Caeodd yr ysgol yn y 1990au ac erbyn hyn nid oes siop yn y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]
EnwogionGolygu
- David Samwell, oedd yn feddyg ar long Capten Cook ar ei fordaith olaf
- Twm o'r Nant, yr anterliwtwr, a aned yn Llanefydd ond a fagwyd yn Nantglyn
- William Owen Pughe, y geiriadurwr (nad oedd yn enedigol o'r pentref, ond a dreuliodd lawer o'i oes yno)
- Aneurin Owen, mab William Owen Pughe
- Robert Davies (Bardd Nantglyn)
- Tom Pryce, gyrwr rasio Fformiwla Un, a dreuliodd ei ieuengctid yn y pentref
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
LlyfryddiaethGolygu
- Eric Griffiths Nantglyn (Cyngor Cymdeithas Nantglyn, 1984)
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen ·
Dinbych ·
Llangollen ·
Prestatyn ·
Rhuddlan ·
Rhuthun ·
Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler ·
Betws Gwerful Goch ·
Bodelwyddan ·
Bodfari ·
Bontuchel ·
Bryneglwys ·
Bryn Saith Marchog ·
Carrog ·
Cefn Meiriadog ·
Clocaenog ·
Cwm ·
Cyffylliog ·
Cynwyd ·
Derwen ·
Diserth ·
Y Ddwyryd ·
Efenechtyd ·
Eryrys ·
Four Crosses ·
Gallt Melyd ·
Gellifor ·
Glyndyfrdwy ·
Graeanrhyd ·
Graigfechan ·
Gwyddelwern ·
Henllan ·
Loggerheads ·
Llanarmon-yn-Iâl ·
Llanbedr Dyffryn Clwyd ·
Llandegla ·
Llandrillo ·
Llandyrnog ·
Llandysilio-yn-Iâl ·
Llanelidan ·
Llanfair Dyffryn Clwyd ·
Llanferres ·
Llanfwrog ·
Llangwyfan ·
Llangynhafal ·
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ·
Llanynys ·
Maeshafn ·
Melin y Wig ·
Nantglyn ·
Pandy'r Capel ·
Pentrecelyn ·
Pentre Dŵr ·
Prion ·
Rhewl (1) ·
Rhewl (2) ·
Rhuallt ·
Saron ·
Sodom ·
Tafarn-y-Gelyn ·
Trefnant ·
Tremeirchion