Grace Darling
Merch i geidwad goleudy yn Lloegr oedd Grace Horsley Darling (24 Tachwedd 1815 – 20 Hydref 1842). Daeth yn enwog am achub bywydau morwyr o longddrylliad y Forfarshire yn 1838. Tarodd y stemar olwyn y creigiau ger Ynysoedd Farne oddi ar arfordir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr; achubwyd bywydau naw o'r morwyr.
Grace Darling | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1815 Bamburgh Castle |
Bu farw | 20 Hydref 1842 Bamburgh Castle |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | ceidwad goleudy |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Grace Darling ar 24 Tachwedd 1815 ym mwthyn ei thadcu yn Bamburgh, Northumberland. Hi oedd y seithfed o naw o blant (pedwar brawd a phedair chwaer), a phan oedd ychydig wythnosau oed, symudodd i fyw ar Ynys Brownsman, un o Ynysone Farne, mewn bwythyn bychan a oedd yn rhan o oleudy.
Ei thad oedd yn gofalu am y goleudy (a adeiladwyd yn 1795 ar gyfer Trinity House a derbyniai dal o £70 y flwyddyn a £10 y flwyddyn am wasanaeth da. Roedd y llety yn elfennol a doedd y goleudy ei hun ddim yn y safle gorau er mwyn arwain llongau i fan diogel. O ganlyniad, symudodd y teulu i oleudy newydd sbon yn 1826 ar Ynys Longstone.
Roedd y llety yng Ngoleudy Longstone yn well ond roedd yr ynys ei hun yn fwy garw, ac felly byddai ei thad yn rhwyfo yn ôl i Longstone er mwyn casglu llysiau ffres o'u hen ardd a bwyd ar gyfer eu hanifeiliaid. Treuliodd y teulu y mwyafrif o'r hamser ar lawr waelod y goleudy a oedd yn cynnwys ystafell fawr, a oedd yn cael ei gynhesu gan dan coed. Hwn oedd eu ystafell fyw, ystafell fwyta a'u cegin ac roedd ynddo risiau troellog a arweiniai i'r tair ystafell wely uwch ben ac wrth gwrs, y golau ar frig y twr.[1]
Yn oriau man y bore ar 7 Medi 1838, tra'n edrych allan drwy'r ffenest i fyny'r grisiau, gwelodd Darling llongddrylliad a morwyr y Forfarshire ar graig o'r enw Big Harcar. Roedd y Forfarshire wedi hwylio'n rhy agos at y creigiau ac wedi torri'n ddau, gydag un hanner o'r cwch wedi suddo yn ystod y nos.
Penderfynodd Grace a'i thad fod y tywydd yn rhy arw i lansio'r bad achub felly aethant allan mewn cwch rhwyfo i geisio achub y morwyr. Aethant ar hyd y llwybr hiraf, gan rwyfo bron milltir. Cadwodd Grace y cwch rhwyfo yn sefydlog yn y mor tra bod ei thad wedi helpu'r pedwar dyn a'r unig fenyw ar y llong, Mrs. Dawson, i mewn i'w cwch. Er ei bod hi wedi goroesi'r llongddrylliad, collodd Mrs Dawson ei dau blentyn ifanc yn ystod y nos. Yna, rhwyfodd William a thri o'r dynion a achubwyd yn ôl i'r goleudy yn y cwch. Arhosodd Grace yn y goleudy tra bod William a thri o'r dynion a achubwyd yn rhwyfo yn ôl i'r llongddrylliad unwaith eto gan achub mwy o'r morwyr.
Yn y cyfamser, lansiwyd y bad achub o Seahouses ond cyrhaeddodd Big Harcar ar ôl i Grace a'i thad orffen achub y morwyr: yr unig beth ffeindiodd y bad achub oedd cyrff meibion Mrs. Dawson a chorff ficer a oedd ar y llong. Roedd h'n rhy beryglus i hwylio nol i Ogledd Sunderland ac felly rhwyfon nhw i'r goleudy er mwyn cael rhyw faint o gysgod. Roedd brawd Grace, William Brooks Darling, yn un o'r saith pysgotwr a oedd ar y bad achub. Dirywiodd y tywydd i'r fath raddau roedd pawb wedi gorfod aros yn y goleudy am dridiau nes i'r tywydd wella cyn iddynt ddychwelyd i'r tir mawr.
Roedd 62 o bobl wedi bod ar fwrdd y Forfarshire. Pan drawodd y creigiau, torrodd y cwch yn ddau. Roedd y bobl a achubwyd gan Grace a'i thad wedi bod yn cysgodi ym mlaen y llong ac wedi bod ar y creigiau am gryn dipyn o amser cyn iddo suddo.
Wrth i'r newydd am ei rol yn achub y morwyr ledu, dechreuwyd ystyried Grace yn dipyn o arwres am ei dewrder. Derbyniodd Grace a'i thad y Fedal Arian am eu dewrder gan y RNLI.[2] Cyfrannodd y cyhoedd dros £700 ar ei chyfer, gan gynnwys £50 wrth y Frenhines Fictoria; aeth dros ddwsin o arlunwyr i'r ynys er mwyn peintio darluniau ohoni, a danfonwyd cannoedd o anrhegion a llythyron iddi.
Yn 1842, aeth Grace yn sal tra'n ymweld a'r tir mawr a threuliodd amser gyda'i chefndryd, y MacFarlanes, yn eu cartref yn Narrowgate, Alnwick. Clywodd Iarlles Northumberland am ei chyflwr threfnodd ei bod yn symud i lety mwy addas ger Castell Alnwick, a gofalodd am yr arwres ei hun yn ogystal gyda chymorth ei meddyg teuluol.
Fodd bynnag, gwaethygodd cyflwr Grace ac wrth iddi ddirywio ymhellach, cafodd ei symud i fan ei geni yn Bamburgh. Bu farw o'r diciâu yn Hydref 1842, yn 26 oed.
Darllen pellach
golygu- Cerdd Algernon Charles Swinburne "Grace Darling"
- Richard Armstrong: Grace Darling: Maid and Myth (1965)
- Hugh Cunningham: Grace Darling – Victorian Heroine Hambledon: Continuum (2008) ISBN 978-1-85285-548-2
- Thomasin Darling: Grace Darling, her True Story: from Unpublished Papers in Possession of her Family (1880)
- Thomasin Darling: The Journal of William Darling, Grace Darling's Father (1887)
- Eva Hope: Grace Darling – Heroine of the Farne Islands Walter Scott Publishing (1875)
- Jessica Mitford: Grace Had an English Heart. The Story of Grace Darling, Heroine and Victorian Superstar (1998) ISBN 0-525-24672-X
- Constance Smedley: Grace Darling and Her Times Hurst and Blackett (1932)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ (1998) Lifeboat Gallantry
Dolenni allanol
golygu- Amgueddfa Grace Darling o'r RNLI Archifwyd 2005-11-19 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Grace Darling
- Gwybodaeth am Grace a'r ardal lle'r oedd yn byw Archifwyd 2014-10-06 yn y Peiriant Wayback
- Description of the sinking of the Forfarshire and Grace Darling’s part in the rescue, from The Tragedy of the Seas, 1841, from Google Book Search
- “Grace Darling: Victorian heroine” BBC
- Grace Darling genealogy