Grace Williams

Cyfansoddwraig o Gymraes (1906-1977)

Cyfansoddwraig o Gymraes oedd Grace Mary Williams (19 Chwefror 190610 Chwefror 1977). Fe'i ystyrir fel un o'r cyfansoddwyr benywaidd Cymreig mwyaf nodedig, a'r fenyw cyntaf o wledydd Prydain i ysgrifennu sgôr ar gyfer ffilm nodwedd.[1]

Grace Williams
GanwydGrace Mary Williams Edit this on Wikidata
19 Chwefror 1906 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1977 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd ei geni yn y Barri yn ferchi i William Matthews Williams ac Rose Emily Richards Williams. Roedd ei rhieni yn athrawon ac roedd ei thad yn gerddor nodedig.[2] [3] Ar ôl gadael Ysgol y Sir, Y Barri, enillodd ysgoloriaeth Morfydd Owen ac aeth i Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Yna aeth i goleg Brenhinol Cerddoriaeth yn Llundain yn 1926, ble cafodd ei dysgu gan Ralph Vaughan Williams. Yn 1930 cafodd ysgoloriaeth i deithio, ac aeth i Fiena. Hwyrach, daeth yn athrawes. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudwyd y myfrywyr i Grantham yn Swydd Lincoln, lle cyfansoddodd hi rhai o'i gweithiau cynharaf, gan gynnwys Sinfonia Concertante a'i symffoni gyntaf.

Ar ôl dysgu yn Llundain am ychydig, daeth yn ôl i Gymru i weithio gyda’r BBC. Un o'i gweithiau mwyaf poblogaidd oedd Fantasia on Welsh Nursery Tunes (1940). Yn 1949, ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm nodwedd Blue Scar, y fenyw gyntaf o wledydd Prydain i wneud hynny.[1] Rhwng 1960-61 ysgrifennodd ei hunig opera The Parlour, ond ni chafodd ei pherfformio tan 1966.[4]

Gweithiau coll

golygu

Yn 2024, cyhoeddwyd bod rhagor o waith Grace Williams wedi ei chanfod mewn ystordy yn y Barri, yn sgil gwaith myfyrwraig o Brifysgol Bangor. Mae casgliad o ddeg alaw Gymreig, sy'n cynnwys 'Hun Gwenllian', 'Bwlch Llanberis' a 'Dwfn yw'r môr'.

Bywyd personol

golygu

Yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dioddefodd o iselder a phroblemau iechyd eraill. Gwrthododd dderbyn OBE am wasanethau i gerddoriaeth yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1967.

Bu farw yn 70 mlwydd oed yn 1977.

Neilltuodd BBC Radio 3 eu heitem Cyfansoddwr yr Wythnos iddi yn ail hanner mis Awst 2006. O ganlyniad, cafwyd nifer o berfformiadau o weithiau nas perfformiwyd, gan gynnwys ei Choncerto Fiolin.

Gweler hefyd

golygu

Gwaith

golygu

Roedd llawer o waith Grace Williams yn clymu gyda cherddoraieth gwerin Gymreig, fel ei darn enwocaf, Fantasia on Welsh Nursery Tunes. Dyma rhestr o’i gwaith:

  • Theseus and Ariadne, bale (1935)
  • Four Illustrations for the Legend of Rhiannon, cerddorfa (1939)
  • Fantasia on Welsh Nursery Tunes, cerddorfa (1940)
  • Sinfonia Concertante, piano a cherddorfa (1941)
  • Symffoni rhif 1 (1943)
  • Sea Sketches, cerddorfa linynnol (1944)
  • Concerto Piano (anorffenedig) (1949)
  • The Dark Island, cerddorfa linynnol (1949)
  • Concerto Feiolin (1950)
  • Variations on a Swedish Tune, piano a cherddorfa (1950)
  • The Dancers (1951)
  • Hiraeth, telyn (1951)
  • Three Nocturnes, 2 piano (1953)
  • Seven Scenes for Young Listeners, cerddorfa (1954)
  • Penillion, cerddorfa (1955)
  • Symffoni rhif 2 (1956, diwygiedig 1975)
  • All Seasons shall be Sweet (1959)
  • The Parlour, opera (ar ôl Guy de Maupassant) (1961)
  • Processional, cerddorfa (1962, diwygiedig 1968)
  • Concerto Trumped (1963)
  • Carillons, obo a cherddorfa (1965)
  • Severn Bridge Variations: Amrywiad 5, cerddorfa (1966)
  • Ballads, cerddorfa (1968)
  • Castell Caernarfon, cerddorfa (1969)
  • Missa Cambrensis (1971)
  • Ave Maris Stella, côr SATB (1973)
  • Fairest of Stars, soprano a cherddorfa (1973)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Jan G. Swynnoe (2002). The Best Years of British Film Music, 1936–1958. Boydell Press. tt. 89–. ISBN 978-0-85115-862-4.
  2. Griffiths, Rhidian. "WILLIAMS, GRACE MARY (1906-1977), cyfansoddwraig". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-06-11.
  3. Steph Power (8 Mawrth 2016). "WOMEN COMPOSERS OF WALES: BBC NOW, TŶ CERDD, BANGOR NEW MUSIC FESTIVAL". Wales Arts Review. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2016.
  4. Roberts, Maddy Shaw (7 Mawrth 2019). "This Welsh female composer's beautiful music was lost for years – but now it is being performed again". Classic FM (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-11.

Dolenni allanol

golygu