Graddau Mickey Mouse

Term difrïol a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig yw graddau Mickey Mouse (Saesneg: Mickey Mouse degrees) sy'n cyfeirio at raddau prifysgol a ystyrid yn ddi-werth neu'n amherthnasol. Mae'n gasair sy'n defnyddio enw'r cymeriad Mickey Mouse mewn ffordd sarhaus. Defnyddir yn amlaf gan bapurau newydd tabloid.

Un o'r pynciau a ddisgrifir yn amlaf gan y term yw astudiaethau cyfryngau.[1] Mae cyrsiau galwedigaethol, megis rheolaeth golff a gwyddor syrffio, yn cael eu gweld yn llai ddeallusol ac ysgolheigaidd na chyrsiau traddodiadol. Cyhuddir y prifysgolion newydd, yn enwedig y cyn-golegau polytechnig, yn aml o addysgu cyrsiau Mickey Mouse.[2] Mae'r cysyniad o raddau Mickey Mouse yn debyg i'r feirniadaeth o "ddewisiadau hawdd" (Saesneg: soft options) mewn cyrsiau Safon Uwch.[3]

Yn yr Unol Daleithiau, underwater basket weaving yw'r term a ddefnyddir (yn llythrennol "gwehyddu basgedi dan ddŵr").

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) 'Mickey mouse' courses jibe angers students. The Guardian (14 Ionawr 2003).
  2. (Saesneg) Emma Brockes (15 Ionawr 2003). Taking the mick. The Guardian.
  3. (Saesneg) Media Studies. Discuss. BBC (18 Awst 2005).