Graffeg gyfrifiadurol

Mae graffeg gyfrifiadurol yn lluniau a ffilmiau a grëir gan ddefnyddio cyfrifiaduron. Fel arfer, mae'r term yn cyfeirio at ddata delwedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur a gynhyrchir gyda chymorth caledwedd a meddalwedd graffig arbenigol. Mae'n un o'r meysydd oddi mewn i wyddoniaeth gyfrifiadurol sydd wedi'i ddatblygu'n helaeth ers tua'r 1980au. Cafodd yr ymadrodd ei fathu yn 1960, gan yr ymchwilwyr graffeg cyfrifiadurol Verne Hudson a William Fetter o'r cwmni awyrennau, Boeing. Yn aml caiff ei fyrhau fel "CG" (computer graphics), ond weithiau ychwanegir y gair "imagery" (delweddiaeth) ato'n ddiangen, i greu'r byrfodd "CGI". Dywedir, weithiau, fod graffeg cyfrifiadurol yn cynnwys popeth ar wahân i destun a sain.[1][2]

Graffeg gyfrifiadurol gan ddangos: ffrâm noeth (dde) a rendrad gorffenedig (chwith) o Gymraes ifanc mewn gwisg gofodwraig; dull gwyddonias.
Meddalwedd eitha cyffredin ym myd graffeg cyfrifiadurol yw Blender; dyma giplun o fersiwn 2.45, gan ddangos model 3D.

Ymlith y pynciau o fewn y maes hwn mae: dylunio rhyngwyneb ar gyfer y defnyddiwr, graffeg sprite, graffeg fector, modelu 3D, cysgodion a golau, dylunio GPU, dargopïo gyda phelydrau (ray tracing), golwg cyfrifiadurol a llawer rhagor. Mae'r fethodoleg yn dibynnu'n helaeth ar y gwyddorau sylfaenol o geometreg, opteg, a ffiseg.

Graffeg cyfrifiadurol sy'n gyfrifol am arddangos a chyfleu data celf a delweddau'n effeithiol, yn ddeniadol ac yn ystyrlon i'r defnyddiwr. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer prosesu data delwedd a dderbynnir o'r byd real. Mae datblygiad graffeg cyfrifiadurol wedi cael effaith sylweddol ar sawl cyfrwng ac mae wedi chwyldroi animeiddio, ffilmiau, hysbysebu, gemau fideo a dylunio graffig yn gyffredinol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. What is Computer Graphics?, Cornell University Program of Computer Graphics. Last updated 04/15/98. Accessed Tachwedd 17, 2009.
  2. ISS Prifysgol Leeds (2002). "What are computer graphics?" Archifwyd 2015-01-06 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 2008