Graffeg
Cynyrchioladau gweledol ar unrhyw arwyneb yw graffeg (o'r Groeg: γραφικός), megis ar wal, cynfas, sgrîn cyfrifiadur, papur, neu garreg, er mwyn creu brand, hysbysu, darlunio, neu er mwyn adloniant. Mae enghreifftiau'n cynnwys ffotograffau, lluniau, Celf llinell, graffiau, diagramau, teipograffeg, rhifau, symbolau, dyluniadau geometrig, mapiau, darluniau peirianeg, neu ddelweddau eraill. Mae graffeg yn aml yn cyfuno testun, darlunio a lliw.