Mynyddoedd y Grampians
(Ailgyfeiriad o Grampians)
Mae Mynyddoedd y Grampian (Gaeleg: Am Monadh) yn un o'r tri chlwstwr mwyaf o fynyddoedd yn yr Alban ac wedi'i leoli yng ngogledd-ddwyrain yr Ucheldir. Mae sianel deledu Grampian Television dros y blynyddoedd wedi creu dryswch mawr ynglŷn â pha fynyddoedd a restrir o dan y pennawd hwn, oherwydd fod eu hardal hwy ychydig yn wahanol i'r ardal ble ceir y clwstwr hwn o fynyddoedd.
![]() | |
Math | cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Aberdeen, Moray, Cyngor yr Ucheldir ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1,344 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 56.92°N 4°W ![]() |
![]() | |
Deunydd | craig fetamorffig ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/21/MappaGrampiani.png/220px-MappaGrampiani.png)
Cofnodir y term yn gyntaf gan y Rhufeiniaid Cornelius Tacitus wrth gofnodi brwydr y Rhufeiniaid yn erbyn y Caledoniaid oddeutu 86 O.C.
Mae'r clwstwr hwn o fynyddoedd yn cynnwys Ben Nevis (sef mynydd uchaf gwledydd Prydain - 1,344 metr) a Ben Macdui (yr ail fynydd uchaf - 1,309 m).
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/34/Beinn_a_ghlo_012.jpg/220px-Beinn_a_ghlo_012.jpg)