Ben Nevis
Ben Nevis (Gaeleg yr Alban Beinn Nibheis: 1344m) yw'r mynydd uchaf yn Y Deyrnas Unedig (Munro) ac Ynysoedd Prydain i gyd; nid oes ganddo felly fam-fynydd. Mae yn ardal Lochaber ger Fort William yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN166712.
Math | mynydd, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ucheldiroedd yr Alban |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 1,344.527 metr |
Cyfesurynnau | 56.796891°N 5.003675°W |
Cod OS | NN1667071279 |
Amlygrwydd | 1,344.527 metr |
Cyfnod daearegol | Defonaidd |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd y Grampians |
Deunydd | craig igneaidd |
Ystyr yr enw Gaeleg yw naill ai "Mynydd Cuchog" neu "Mynydd y Cymylau", "Mynydd y Nefoedd", gan ei fod mor uchel. Mae'n un o wyth copa yn yr Alban sydd dros 4,000'. Mae crib yn cysylltu Ben Nevis â'i gymydog Carn Mòr Dearg.
Mae "Ben" yn boblogaidd iawn gan ymwelwyr (mae tua 100,000 yn cerdded i'r copa bob blwyddyn) ac mae hyn wedi creu problemau amgylcheddol wrth i lwybrau gael eu herydu a phobl gadael sbwriel ar eu holau.
Y llwybr hawsaf yw "Llwybr y Twristiaid", sy'n hir ond hawdd i gerddwyr. Ond ceir sawl llwybr mwy anturus ac mae clogwyni'r gogledd yn enwog am eu dringfeydd caled, yn arbennig yn y gaeaf a'r gwanwyn pan fo'r rhew yn galed.
Am fap yn dangos lleoliad Ben Nevis, gweler Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros) (Adran 4). Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.
Yn 2004 cyhoeddodd y cylchgrawn mynydda "Trail" gyfarwyddiadau anghywir a pheryglus sut i fynd i lawr o'r copa. [1]
Cyfeiriadau
golyguGweler hefyd
golyguDolennau allanol
golygu- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-07-28 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-01-30 yn y Peiriant Wayback