Gran Sasso d’Italia

Mynydd yn rhanbarth Abruzzo yng nghanolbarth yr Eidal yw'r Gran Sasso d'Italia. Y mynydd yw canolbwynt parc cenedlaethol Parco Nazionale del Gran Sasso e Monti della Laga, a sefydlwyd yn 1993, ac ef yw copa uchaf mynyddoedd yr Apenninau. Y ddinas agosaf yw L'Aquila, 16 km i ffwrdd o dref fechan Assergi wrth droed y mynydd.

Gran Sasso d’Italia
Mathmasiff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbruzzo Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Uwch y môr2,912 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.4692°N 13.5653°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddAppennino Abruzzese Edit this on Wikidata
Map

Mae tri copa i'r mynydd; yr uchaf yw Corno Grande, 2,912 medr o uchder. Y ddau arall yw Corno Piccolo a Pizzo Intermésoli. Islaw y Corno Grande mae rhewlif Calderone.