Abruzzo

rhanbarth yr Eidal

Rhanbarth yn rhan ddwyreiniol canolbarth yr Eidal yw Abruzzo. L'Aquila yw'r brifddinas.

Abruzzo
Autunno, autumn, Herbst 2007, my most popular photo.jpg
Regione-Abruzzo-Stemma.svg
Mathrhanbarthau'r Eidal Edit this on Wikidata
PrifddinasL'Aquila Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,308,451 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarco Marsilio Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPhiladelphia Edit this on Wikidata
NawddsantGabriel of Our Lady of Sorrows Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd10,831.84 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr563 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMarche, Lazio, Molise Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.22°N 13.83°E Edit this on Wikidata
IT-65 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Abruzzo Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholRegional Council of Abruzzo Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
president of Abruzzo Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarco Marsilio Edit this on Wikidata
Map

Mae Abruzzo yn ffinio ar ranbarthau Marche yn y gogledd, Lazio yn y gorllewin a Molise yn y de-ddwyrain, tra mae'r Môr Adriatig yn ffîn ddwyreiniol. Er ei fod yng nghanolbarth y wlad, ar gyfer pwrpas ystadegau, fe'i hystyrir yn rhan o dde yr Eidal. Rheswm hanesyddol sydd am hyn, oherwydd i'r Abruzzo fod yn rhan o Deyrnas y Ddwy Sicilia.

Ardal fynyddig yw'r rhan fwyaf o'r rhanbarth, ac mae'n cynnwys y Gran Sasso d'Italia, copa uchaf yr Apenninau, 2,914 medr o uchder. Ceir nifer o barciau cenedlaethol a gwarchodfeydd yma, ac mae'r Arth frown, y blaidd a'r chamois i'w cael yma.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,307,309.[1]

Lleoliad Abruzzo yn yr Eidal

Rhennir y rhanbarth yn bedair talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Taleithiau Abruzzo

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. City Population; adalwyd 22 Rhagfyr 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato