Granville Beynon
Gwyddonydd ffiseg o Ddyfnant, ger Abertawe, oedd Syr William John Granville Beynon (24 Mai 1914 – 11 Mawrth 1996). Am ddeuddeg mlynedd, rhwng 1946 a 1958 bu'n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe.[1]. Aeth i weithio yn Slough yn 1938 yn y Labordy Ffiseg Cenedlaethol, gyda Syr Edward Appleton, gŵr a gafodd gryn effaith arno. Yn 1958 derbyniodd gadair Ffiseg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Granville Beynon | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mai 1914 Dynfant |
Bu farw | 11 Mawrth 1996 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd, academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE, Chree Medal and Prize, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Faglor |
Gallai chwarae'r ffidil a snwcer i safon uchel iawn. Yn ôl y gwyddonydd Phil Williams,
“ | Roedd ganddo wreiddiau tyfn, ac roedd wastad yn driw i'w wreiddiau.[2] | ” |
Yn ôl papur yr Independent, gwnaeth Aberystwyth yn "Mecca i ymchwil i'r awyrgylch uwch".[3]
Roedd yn flaenllaw iawn ym myd y radio ac yn Llywydd URSI, (sef "The International Union of Radio Science"), ac yn olygydd "The Journal of Atmospheric and Terrestrial Physics". Ef hefyd oedd arweinydd y gymuned ddarlledu yng Nghymru.
Roedd hefyd yn un o sefydlwyr EISCAT (European Incoherent Scatter Scientific Association).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan yr Independent: Teyrnged i Beynon
- ↑ Sir GRANVILLE BEYNON. MIST. Adalwyd ar 30 Awst, 2009.
- ↑ Obituary: Professor Sir Granville Beynon ("He made Aberystwyth the Mecca of upper-atmosphere research.")
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan yr Independent: Teyrnged i Beynon