Phil Williams
Roedd y Dr Philip James Stradling Williams (11 Ionawr 1939 – 10 Mehefin 2003), yn wyddonydd ac yn wleidydd o Gymru. Fe'i etholwyd yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth ranbarthol Dwyrain De Cymru yn 1999.
Phil Williams | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ionawr 1939 Tredegar |
Bu farw | 10 Mehefin 2003 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd |
Swydd | Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Fe'i ganwyd yn Nhredegar ond fe'i magwyd ym Margoed. Cafodd radd ddwbl mewn ffiseg ddamcaniaethol ac yn ddiweddarach Ph.D. ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd yn wyddonydd blaengar ym maes gwyddoniaeth y gofod. Penodwyd ef yn ddarlthydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1967, ac yn athro Ffiseg Solar-Ddaearol yn 1991.
Yn aelod o Blaid Cymru ers 1961 chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad polisi y blaid. Ef oedd cadeirydd cenedlaethol cyntaf y blaid, a bu yn ymgeisydd seneddol ac yn ymgeisydd Ewropeaidd i'r blaid. Daeth o fewn trwch blewyn i ennill is-etholiad Caerffili yn 1968.
Marwolaeth
golyguPeidiodd a bod yn Aelod o'r Cynulliad yn 2003 er mwyn gweithio ar brosiect ymchwil yn astudio'r haul o'r wylfan ger Pegwn y Gogledd. Fe'i etholwyd yn Wleidydd Cymreig y Flwyddyn S4C yn y flwyddyn 2000.[1] Rhoddwyd pwysau arno gan gyd-weithwyr i fod yn arweinydd newydd y Blaid, yn sgîl ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones fel llywydd. Yn fuan wedi iddo adael Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dioddefodd Williams drawiad ar y galon tra'n ymweld â pharlwr tylino "A Touch of Class" (a elwir "Twice as Nice" bellach) yng Nghaerdydd.[2] Bu farw o ganlyniad i'r trawiad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Former Plaid Cymru AM dies Gwefan y BBC. Adalwyd ar 23-07-2009
- ↑ Woman quizzed on ex-AM's death. Gwefan BBC. Adalwyd ar 23-07-2009
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Teyrnged gan Henry Rishbeth Archifwyd 2004-08-15 yn y Peiriant Wayback
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru 1999 – 2003 |
Olynydd: Laura Anne Jones |