Gregynog
Plasdy hanesyddol yw Gregynog, a leolir yng nghymuned Tregynon, Powys. Mae'n cael ei redeg heddiw fel canolfan cynadleddau gan Brifysgol Cymru. Roedd yn rhodd i'r brifysgol ym 1963 gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, wyresau'r gŵr busnes llwyddiannus, David Davies Llandinam. Mae'n gartref i Wasg Gregynog sy'n argraffu llyfrau cain mewn argraffiadau cyfyngedig.
![]() | |
Math |
plasty gwledig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Y Drenewydd, Tregynon ![]() |
Sir |
Powys ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
54.98 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
52.5675°N 3.3522°W, 52.566481°N 3.345776°W ![]() |
Cod post |
SY16 3PW ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Prifysgol Cymru ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd II*, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Hyd at 1914 roedd y rhan fwyaf o dir a ffermydd Tregynon, Betws Cedewain a'r cylch yn rhan o ystâd Gregynog.
Er 1932, cynhelir Gŵyl Gerddoriaeth Gregynog yno, sydd wedi denu rhai o enwau mawr y byd cerddorol fel Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst, Benjamin Britten ac Edward Elgar.
Hanes cychwynnolGolygu
Mewn cerdd gan Gynddelw Brydydd Mawr (1150-1200) y mae’r sôn cyntaf am yr enw Gregynog (ar y ffurf Grugunawg) fel llys neu enw ardal o bosibl: Grugunawg eryr Grugunan gynneddf ‘Arwr Grugynog a chanddo gynneddf [yr arwr] Gruganan’. Daeth yr enw lle Grugunawg o enw dyn Grugun, a’r enw hwnnw’n cynnwys yr elfen grug ‘heather’.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Tegai Hughes, Glyn; Morgan, Prys; Thomas, J. Gareth (1977). Gregynog. Gwasg Prifysgol Cymru.