David Davies, Llandinam
Un o ddiwydiannwyr mwyaf llwyddiannus Cymru yn y 19g oedd David Davies (Llandinam) (18 Rhagfyr 1818 - 20 Gorffennaf 1890). Fe'i ganwyd yn Llandinam, Sir Drefaldwyn a chafodd ei alw'n Top Sawyer neu Davies yr Ocean, ar ôl The Ocean Coal Company yn ogystal â'i llysenw mwy adnabyddus. Roedd yn Aelod Seneddol dros Geredigion ac Aberteifi o 1874 hyd 1886 a chefnogodd sefydliad Coleg Prifysgol yn Aberystwyth.
David Davies, Llandinam | |
---|---|
Ganwyd | 18 Rhagfyr 1818 Llandinam |
Bu farw | 20 Gorffennaf 1890 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, diwydiannwr |
Swydd | Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Plant | Edward Davies |
Gyrfa
golyguRoedd David Davies yn dod o deulu eithaf tlawd a ddechreuodd weithio fel llifiwr coed ond llwyddodd i wneud digon o arian ar gyfer adeiladu rheilffordd rhwng Llanidloes a'r Drenewydd. Wedyn cafodd dir gan deulu'r Crawshay yng Nghwm Rhondda ac agorodd bwll glo yno. Fodd bynnag, nid oedd ei ymdrechion i ddod o hyd i wythïen lo yn llwyddiannus a daeth ei arian i ben wrth chwilio amdani. Cytunodd y gweithwyr i weithio am wythnos arall heb gyflog ac fe ddarganfuwyd glo yn ystod yr wythnos honno! Sefydlwyd pyllau glo'r Parc, Treorci a Maendy gan Davies a thrwy hyn, dechreuodd Cwm Rhondda ddatblygu i fod yn faes glo pwysig iawn.
Gan fod Ardalydd Bute yn dal i godi taliadau yn nociau Caerdydd, adeiladodd David Davies ddociau glo newydd yn Y Barri, porthladd mwyaf Cymru erbyn 1914.
Cof
golyguMae casgliad celf ei wyresau Gwendoline Davies a Margaret Davies i'w gweld gan y cyhoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Heddiw, saif cerflun David Davies ar bwys yr A470 yn Llandinam ac yn Nociau y Barri.
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Thomas Lloyd |
Aelod Seneddol dros Aberteifi 1874 – 1885 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: Thomas Edward Lloyd |
Aelod Seneddol dros Geredigion 1885 – 1886 |
Olynydd: William Bowen Rowlands |