Gruffudd Bola
Roedd Gruffudd Bola (fl. 1265 - 1282) yn llenor o Gymru yn yr iaith Ladin.[1]
Gruffudd Bola | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Blodeuodd | 13 g |
Cysylltir gyda | Abaty Ystrad Fflur |
Bywgraffiad
golyguYchydig a wyddys amdano. Fe'i gysylltir gan rai awdurdodau ag abaty Ystrad Fflur.[1] Mae'r enw Bola yn ffurf Gymraeg ar y cyfenw Saesneg Bole.[1]
Cyfieithodd Credo Athanasius Sant i'r Gymraeg rywbryd yn 60au neu 70au'r 13g.[1]
Ymgymerodd â'r gwaith hwnnw er mwyn Efa, ferch Maredudd ap Owain, un o ddisgynyddion Rhys ap Gruffydd (yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth) a chwaer i Gruffudd ap Maredudd, a ofynnodd am gyfieithiad o'r Transitus.[1] Un o ddisgynyddion Efa, Gruffudd ap Llywelyn, a gomisiynodd ancr Llanddewibrefi i ysgrifennu compendiwm pwysig o destunau crefyddol Cymraeg a adnabyddir fel Llyfr Ancr Llanddewibrefi (neu Lyfr yr Ancr).