Abaty Ystrad Fflur

abaty rhestredig Gradd I yn Ystrad Fflur (pentrefan)

Hen abaty Sistersiaidd yw Abaty Ystrad Fflur (Lladin: Strata Florida). Fe'i lleolir ger Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion.

Abaty Ystrad Fflur
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1164 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYstrad Fflur Edit this on Wikidata
SirYstrad Fflur Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr194 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.2754°N 3.83827°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Sistersaidd Edit this on Wikidata
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata
Erthygl am yr abaty yw hon, am y gymuned gweler Ystrad-Fflur.

Hanes golygu

Roedd y Sistersiaid, neu'r mynaich gwynion, yn gymuned fugeiliol, yn gwarchod defaid a gwartheg ar eu hystadau er mwyn cynnal eu cymuned grefyddol a diwylliannol.

Nid oes sicrwydd ynglŷn ag union ddyddiad sefydlu'r abaty, ond dywedir iddo gael ei sefydlu o gwmpas y flwyddyn 1164, dan nawdd yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ffynnai'r sefydliad yn y 12g fel canolfan diwylliant a pheth gyfoeth; yma hefyd y cyfansoddwyd un fersiwn o'r cronicl enwog Brut y Tywysogion. Galwodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint yn Ystrad Fflur yng ngwanwyn 1188 ar eu taith trwy Gymru. Teithiasant yno o Bont Steffan. Dywed Gerallt eu bod wedi treulio'r nos yn yr abaty ond yn anffodus nid yw'n manylu ar y croeso a gafwyd. Roedd yr abad Seisyllt yn ddigon da i dywys y ddau ar weddill eu ffordd i'r gogledd.[1]

 
Rhan o furiau'r abaty.

Dioddefodd yr abaty beth difrod yn ystod rhyfeloedd y 13g; yn arbennig gan ymgyrchoedd Edward I, brenin Lloegr, yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Yn fuan wedyn, difrodwyd rhan o'r abaty gan dân a achoswyd gan fellten. Gwanwyd y sefydliad gan y trychinebau hyn, ac yn diweddarach gan y Pla Du, ac mae'n ymddangos nad adferwyd y niferoedd ynddo.

Dywedir i'r bardd Dafydd ap Gwilym gael ei gladdu yma ym 1380 dan ywen hynafol sydd yn parhau i dyfu yno heddiw.

Erbyn y 15g, fe ddioddefodd yr abaty o weithgareddau milwrol y Saeson yng Nghymru, a lleihawyd y gymuned i saith mynach. Diddymwyd yr abaty ym 1539 fel rhan o ymgyrch Diddymu'r Mynachlogydd gan Harri VIII, brenin Lloegr. Gwerthwyd rhai o'r tiroedd amaethyddol, a throsglwyddwyd tir yr abaty i deulu Stedman. Yn y cyfnod hwn, dymchwelwyd rhannau sylweddol o'r adeiladau a defnyddiwyd y cerrig at ddibenion adeiladu eraill.

Yn y 19g, tyfodd diddordeb yn yr adfeilion fel atyniad i deithwyr, yn arbennig dan ddylanwad Stephen Williams, y peiriannydd rheilffyrdd.

Y Groes golygu

Ceir yma hefyd groes eglwysig a gerfiwyd o garreg yn y Canol Oesoedd ac a leolwyd y tu allan i'r wal allanol; cyfeiriad grid SN746657. Mae hi'n 1.5 metr o uchder, .05m o led a thewder o 0.12m.[2]

Cofrestwyd yr heneb hon gan Cadw gyda rhif SAM: CD060.[3]

Etifeddiaeth golygu

 
Llun o'r adfeilion o'r Illustrated London Reading Book, 1851

Mae adfeilion yr abaty wedi ysbrydoli sawl llenor. Y gerdd enwocaf amdano, efallai, yw 'Ystrad Fflur' gan T. Gwynn Jones, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1926 ac ddaeth yn ddarn adrodd cyfarwydd i blant ysgol ledled Cymru. Dyma'r ddau bennill cyntaf:

Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
Yn murmur yn yr awel,
A deuddeng Abad dan y gro
Yn huno yno'n dawel.
Ac yno dan yr ywen brudd
Mae Dafydd bêr ei gywydd,
A llawer pennaeth llym ei gledd
Yn ango'r bedd tragywydd.[4]

Heddiw golygu

Mae adfeilion yr abaty yng ngofal Cadw ac yn agored i'r cyhoedd am dâl yn yr haf ac am ddim yn y gaeaf. Mae'r mynediad oddi ar y ffordd B4343.

Rhan fwyaf trawiadol yr abaty, y rhan sydd wedi goroesi orau, a'r ddelwedd a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin ohono, yw'r porth gorllewinol. Mae'n nodedig oherwydd ei saernïaeth gain. Mae hefyd yn bosibl gweld olion seiliau'r abaty cyfan a chael syniad o ddyluniad y cyfan. Mae rhywfaint o'r addurniadaeth a rhai teiliau llawr addurnedig wedi goroesi.

Ceir coetir Coed y Bont, sy'n rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru ac sy'n boblogaidd gyda cherddwyr a rhai sy'n mwynhau golygfeydd gofodol Awyr Dywyll.

Ffynonellau golygu

  • David M. Robinson & Colin Platt, Strata Florida Abbey, Talley Abbey CADW, 1992 ISBN 1-85760-106-8

Darllen pellach golygu

J. Beverley Smith a W.G Thomas Abaty Ystrad Fflur HMSO, 1977

Cyfeiriadau golygu

  1. Thomas Jones (gol.), Hanes y Daith Trwy Gymru, pennod IV.
  2. "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-16. Cyrchwyd 2010-10-19.
  3. Data Cymru Gyfan, CADW
  4. T. Gwynn Jones, 'Ystrad Fflur', Caniadau (Wrecsam, 1934).

Dolenni allanol golygu