Llyfr Ancr Llanddewibrefi

llawysgrif Gymraeg o'r 14g

Llawysgrif o'r 14g yw Llyfr Ancr Llanddewibrefi (weithiau Llyfr yr Ancr neu 'Goleg yr Iesu MS 119'). Mae'n dyddio i 1346, ac yn gasgliad o destunau ar bynciau crefyddol wedi'u cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg. Ancr dienw, sef math o feudwy wedi'i leoli ger eglwys, a sgwennodd y llawysgrif.

Llyfr Ancr Llanddewibrefi
Enghraifft o dudalen o lawysgrif Ancr Llanddewibrefi
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1346 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGruffydd ap Llywelyn ap Phylip ap Trahaearn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1346 Edit this on Wikidata
LleoliadColeg yr Iesu Edit this on Wikidata

Mae'n cynnwys casgliad o destunau crefyddol wedi'u cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg, ac yn eu plith yr Elucidarium, yn ogystal â Historia Lucidar, Ymborth yr Enaid, Breuddwyd Pawl (rhestr isod) a thestun Prester John Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit. Dywed y llawysgrifiwr, yn y llawysgrif, i'r gwaith gael ei gomisiynu gan Gruffydd ap Llywelyn ap Phylip ap Trahaearn o Gantref Mawr yn Sir Gaerfyrddin, ychydig i'r gogledd o Gydweli.

Rhoddwyd y llawysgrif i Goleg yr Iesu, Rhydychen yn y 18g, ac mae bellach yn cael ei chadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen, gyda llawysgrifau Cymraeg eraill megis Llyfr Coch Hergest.[1] Yn hydref 2021 cytunodd Coleg yr Iesu, Rhydychen i roi trwydded agored CC-BY-SA ar y delweddau o bob tudalen, ac fe'u huwchlwythwyd i Gomin Wicimedia.


Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru llawysgrif 17-18fed ganrif, sydd yn gopi hanesyddol o fersiwn Coleg yr Iesu.[2]

Y gwreiddiol (ch) a thrawsgrifiad Coleg y Brifysgol, Caerdydd (dde).
Trawsgrifiad bras:
Gweithret y llyuyr hỽnn a berthynn ar
dỽy bersson. nyt amgen. ar disgybyl yn
gouyn. ac ar yr athro yn attep. ar dis+
gybyl a dyỽat val hynn.

Rhannau

golygu

Ceir 16 adran:

  • tud 5r :1 Ystoria Lucidar (Crefyddol)
  • tud 69v :17 Marwolaeth Mair (Crefyddol)
  • tud 78r :1 Ymborth yr Enaid (Crefyddol)
  • tud 93r :1 Buchedd Dewi (Crefyddol)
  • tud 104r :1 Buchedd Beuno (Crefyddol)
  • tud 111r :1 Ystoria Adrian ac Ipotis (Crefyddol)
  • tud 119r :12 Credo Athanasius (Crefyddol)
  • tud 121r :6 Pa ddelw y dylai dyn gredu i Dduw (Crefyddol)
  • tud 125r :16 Pwyll y Pader, Hu (Crefyddol)
  • tud 128v :1 Rhinweddau Gwrando Offeren (Crefyddol)
  • tud 129r :3 Breuddwyd Pawl (Crefyddol)
  • tud 132v :4 Epistol y Sul (Crefyddol)
  • tud 134r :12 Rhybudd Gabriel (Crefyddol)
  • tud 134v :15 Efengyl Ieuan (Crefyddol)
  • tud 136r :19 Y Drindod yn un Duw (Crefyddol)
  • tud 137v :1 Gwlad Ieuan Fendigaid (Daearyddiaeth)
 
Llun o 1881 gan Teodor Axentowicz (1859–1938) o ancr

Math o feudwy yw ancr a leolir mewn cell ger eglwys, ond nad yw'n cysylltu â'r byd mawr mewn unrhyw fodd. Math o hunan garcharor. Yn wahanol i feudwyon, roedd ancriaid yn mynd drwy defod grefyddol a oedd yn debyg iawn i ddefod angladdol, ac yn dilyn hynny byddent yn cael eu hystyried yn farw i'r byd, yn sant byw. Roedden nhw'n eithaf annibynnol o'r eglwys, gan nad oeddent yn ateb i unrhyw awdurdod eglwysig heblaw'r esgob.[3]

Er fod sawl ancr ar gael heddiw, roeddent fwyaf poblogaidd, o ran nifer, yn y 13g.[4]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Thomas Jones, 'The Book of the Anchorite of Llanddewi Brefi', Transactions and Archaeological Record, Cardiganshire Antiquarian Society, 12 (1937), 63–82
  • Thomas Jones, 'The Book of the Anchorite of Llanddewi Brefi', Transactions and Archaeological Record, Cardiganshire Antiquarian Society, 12 (1937), 63–82
  • Sarah Rowles, 'Yr Elucidarium: Iaith, strwythur, cynnwys ac arwyddocâd y cyfieithiadau Cymraeg', PhD dissertation, Prifysgol Aberystwyth, 2008.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rowles, tt. 106–107
  2. "Llyfr Ancr Llanddewi Brefi, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2021-11-30.
  3. LePan, Don (2011). The Broadview Anthology of British Literature. Broadview Press. t. 348.
  4. "The Code of Canon Law 1983, canon 603".

Dolenni allanol

golygu