Gruffudd Fychan I

teyrn (1300-1289)

Tywysog Powys Fadog oedd Gruffudd Fychan I (bu farw 1289).

Gruffudd Fychan I
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Bu farw1289 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddPowys Fadog Edit this on Wikidata
TadGruffudd Maelor II Edit this on Wikidata
MamEmma d'Audley Edit this on Wikidata
PlantMadog Crypl Edit this on Wikidata
Arfbais Powys Fadog

Ef oedd yr ieuengaf o bedwar mab Gruffudd Maelor II, Arglwydd Dinas Brân. Ar farwolaeth ei dad yn 1269 neu 1270, etifeddodd Iâl ac Edeirnion, yn cynnwys Glyndyfrdwy. Cefnogodd Llywelyn ap Gruffudd yn rhyfel 1277 yn erbyn Edward I, brenin Lloegr. Lladdwyd ei frawd hynaf, Madog ap Gruffudd II, yn y rhyfel, ac eifeddodd Gruffudd ei diroedd. Yn y cytundeb heddwch ar ôl y rhyfel, cytunwyd y byddai'r gwrogi i Lywelyn am Edeirnion, ond i Edward I am Iâl. Cefnogodd Llywelyn eto yn rhyfel 1282-1283, a chollodd ei diroedd.

Perswadiodd Iarll Surrey y brenin i ganiatau iddo barhau i ddal ei diroedd fel tenant am weddill ei oes. Gadawodd fab ieuanc, Madog Crypl.

Llyfryddiaeth

golygu
  • J. E. Lloyd, Owen Glendower: Owen Glyn Dŵr (Rhydychen: Clarendon Press, 1931), 9-11.