Madog ap Gruffudd II
Arglwydd Powys Fadog oedd Madog ap Gruffudd II (bu farw 1277).
Madog ap Gruffudd II | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Bu farw | 1277 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Powys Fadog |
Tad | Gruffudd Maelor II |
Mam | Emma d'Audley |
Etifeddodd deyrnas Powys Fadog yn y flwyddyn 1269 ar farwolaeth ei dad, Gruffudd Maelor II a rheolodd y dywysogaeth fechan o Gastell Dinas Brân, ger Llangollen. Roedd yn un o gefnogwyr amlycaf Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ac yn gynghreiriad hollbwysig oherwydd safle Powys Fadog yn rheoli'r mynediad i deyrnas Gwynedd o gyfeiriad Caer a'r Gororau. Ymddengys fod Llywelyn wedi seilio eu perthynas trwy drefnu i Fadog briodi ei chwaer Margaret ferch Gruffudd ap Llywelyn Fawr, yn 1258, symudiad a ddigiodd frenin Lloegr.[1]
Lladdwyd Madog yn ystod rhyfel 1277 rhwng Llywelyn a brenin Lloegr, wrth amddiffyn ei diroedd yn erbyn ymosodiad y brenin. Olynwyd ef gan ei frawd iau, Gruffudd.
Mae'n bosibl ei fod wedi'i gladdu yn Abaty Glyn y Groes am ei fod, fel ei dad, yn noddi'r sefydliad hwnnw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tud. 38