Madog Crypl
Etifedd Powys Fadog oedd Madog Crypl neu Madog Crippil, hefyd Madog ap Gruffudd (c. 1275 - 1304). Ni fu ef ei hun erioed yn dywysog Powys Fadog, yn hytrach daliai ran o'r eifeddiaeth fel deiliad i goron Lloegr.
Madog Crypl | |
---|---|
Ganwyd | 1275 |
Bu farw | 1304 |
Tad | Gruffudd Fychan I |
Mam | Margaret ferch Rhys Ieunac |
Plant | Gruffudd Fychan, Madog Fychan, Margred ferch Madog Crupl ap Gruffudd Farwn |
Bu farw ei dad Gruffudd Fychan yn 1289, pan oedd Madog yn dal yn blentyn. Gweinyddwyd ei diroedd gan y frenhines, yna gan Reginald de Grey, Ustus Caer, yna gan Thomas o Macclesfield. Gofynnodd Madog i'r brenin wneud darpariaeth iddi, ac ymddengys iddo gael tiroedd ei dad; Glyndyfrdwy yn Edeirnion a hanner cwmwd Cynllaith, sef yr ardal o gwmpas Sycharth.
Priododd Gwenllian ferch Ithel Fychan, a chofnodir i fab iddynt, Gruffudd o Ruddallt, briodi Elizabeth, merch John LeStrange o Knockin yn 1304, pan oedd yn chwech oed. Bu Madog farw yr un flwyddyn. Yn ôl rhai o'r achau, roedd ganddo fab arall, Madog Fychan, a eifeddodd diroedd ei dad.
Llyfryddiaeth
golygu- J. E. Lloyd, Owen Glendower: Owen Glyn Dŵr (Rhydychen: Clarendon Press, 1931)