Guarino da Verona
Ysgolhaig o Eidalwr oedd Guarino da Verona (1374 – 14 Rhagfyr 1460) a oedd yn un o'r dyneiddwyr cyntaf yn y Dadeni Dysg.
Guarino da Verona | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1374 ![]() Verona ![]() |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1460, 1460 ![]() Ferrara ![]() |
Galwedigaeth | bardd, athronydd, cyfieithydd, dyneiddiwr, academydd ![]() |
Swydd | hofmeister ![]() |
Cyflogwr | |
Plant | Battista Guarino ![]() |
Ganwyd yn Verona ac astudiodd yn yr Eidal ac yng Nghaergystennin (1403–08). Dychwelodd i'r Eidal gyda chasgliad o lawysgrifau Groeg, ac addysgodd yr iaith honno yn Fflorens (1410) ac yn Fenis (1414). Cyflawnodd Regulae grammaticales (1418), y gramadeg Lladin cyntaf yn y Dadeni. Wedi iddo weithio'n feistr rhethreg yn Verona, fe'i penodwyd yn diwtor i Leonello, mab Nicolò d’Este, Arglwydd Ferrara, yn 1430. Bu hefyd yn cyfieithu nifer o awduron o'r Roeg, gan gynnwys Strabo a Plutarch. Galwyd ar ei alluoedd ieithyddol yng Nghynor Eglwysig Ferrara-Fflorens (1438–45).[1]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ (Saesneg) Guarino Veronese. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2019.