Guide Michelin
Mae'r Guide Michelin (ynganiad: [ɡid miʃlɛ̃]) neu'r Michelin Guide yn gyfres o arweinlyfrau blynyddol a gyhoeddir gan Michelin mewn dros dwsin o wledydd. Mae'r term yn cyfeirio at y Michelin Red Guide, yr arweinlyfr gwestai a thai bwyta Ewropeaidd hynaf a mwyaf adnabyddus, sy'n gwobrwyo sefydliadau gyda "Sêr Michelin". Mae Michelin hefyd yn cyhoeddi Green Guides ar gyfer teithio a thwristiaeth, yn ogystal â nifer o gyhoeddiadau mwy newydd megis y "Guide Voyageur Pratique" (i'r teithiwr annibynnol), "Guide Gourmand" (bwytai da am bris rhesymol), "Guide Escapade" (seibiau byr) a "Guide Coup de Cœur" (gwestai o gymeriad).
Enghraifft o'r canlynol | arweinlyfr |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1900 |
Dechrau/Sefydlu | 1900 |
Yn cynnwys | Michelin star |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | André Michelin |
Gwefan | https://guide.michelin.com/en |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |