Gullfoss
Rhaeadr yng Ngwlad yr Iâ yw Gullfoss ("Rhaeadr Aur"; Icelandic pronunciation (help·info)). Fe'i lleolir mewn canyon ar Afon Hvítá yn ne-orllewin y wlad.
Math | rhaeadr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Hvítá, Golden Circle |
Lleoliad | Biskupstungur |
Sir | Bláskógabyggð, Hrunamannahreppur |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Gerllaw | Hvítá |
Cyfesurynnau | 64.3261°N 20.1211°W, 64.32733°N 20.1194°W |
Arllwysiad | 140 metr ciwbic yr eiliad |
Gullfoss yw un o atyiadau twristaidd mwyaf poblogaidd Gwlad yr Iâ. Mae'n rhan o gylchdaith enwog y 'Golden Ring' sy'n cynnwys y Þingvellir a geyser Haukadalur sy'n boblogaidd gyda thwristiaid.
Mae'r afon Hvítá lydan yn rhuthro i'r de a, tua cilomedr cyn y rhaeadr ystumio'n dynn i'r dde gan lifo lawr bwa tair-gris cyn cwympo'n sydyn mewn dau gymal (11 metr or 36 troedfedd, a 21 metr or 69 troedfedd) mewn i hollt 32 metr (105 tr) o ddyfnder. Mae'r hollt oddeutu 20 metr (66 tr) o led a 2.5 cilometr (1.6 mi) o hyd. Bydd, ar gyfartaledd, tua 140 cubic metre (4,900 cu ft) o ddŵr yn llifo lawr y rheadr yr eiliad yn yr haf a 80 cubic metre (2,800 cu ft) yr eiliad yn y gaeaf. Roedd y llif uchaf a nodwyd yno yn 2,000 cubic metre (71,000 cu ft) yr eiliad.
Yn ystod hanner cyntaf 20g ac am rai blynyddoedd yn hwyr yn yr 20g bu sôn am ddefnyddio Gullfoss er mwyn cynhyrchu trydan. Ond methiant bu hyn, yn rannol oherwydd diffyg arian. Gwerthwyd y rhaeadr maes o law i wladwriaeth Gwlad yr Iâ. Mae bellach wedi ei warchod.
Roedd Sigríður Tómasdóttir, merch un o berchnogion Gullfoss, Tómas Tómasson, yn benderfynnol o gadw'r rhaeadr, er iddi fygwth daflu ei hun mewn iddo fel hunanladdiad. Er bod nifer yn dal i gredu mai Sigríður achubodd y rhaeadr i'w warchod, dydy'r stori ddim yn wir. Ond mae cofeb carreg iddi uwchlaw'r rhaeadr sy'n dangos ei proffil.[1]
Gullfoss mewn diwylliant poblogaidd
golygu- Mae Gullfoss yn ymddangos ar glawr albwm "Porcupine" gan y grŵp Seisnig, Echo and the Bunnymen.
- Sonir am y rhaeadrau yn y nofelig, The Odd Saga of the American and a Curious Icelandic Flock;[2] yn ystod cinio noda Snorri ei hoffter o raeadr Gullfoss, tra bod Dr. Gustafsson yn ffafrio Glymur.
- Ymddangosa Gullfoss yn fideo pop "Heaven" gan y band Live.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gullfoss Sigridur Tomasdottir". Nat.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-14. Cyrchwyd 2012-01-01. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "The Odd Saga of the American and a Curious Icelandic Flock". Google Books. Cyrchwyd 5 Mai 2012.
Oriel
golygu-
Wrth edrych lawr y dyffryn
-
Gullfoss yn y niwl, 30 Mehefin 2005
-
Gullfoss yn yr haul, Mai 2006
-
Gullfoss yn hwyr, Mawrth 2007
-
Gullfoss, Awst 2013
-
Haf 2014
-
Golygfa o'r ffin
-
Gullfoss ar 22 Chwefror 2017