Gwäell wythien goch

Sympetrum fonscolombii
Male red-veined darter
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Sympetrum
Rhywogaeth: S. fonscolombii
Enw deuenwol
Sympetrum fonscolombii
(Selys, 1840)

Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell wythien goch (Lladin: Sympetrum fonscolombii; lluosog: gweyll gwythïen goch). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn ne Ewrop ac ers 1990au fe'i canfyddwyd yng ngogledd Ewrop, gan gynnwys gwledydd Prydain ac Iwerddon.

Sillefir ei henw Lladin weithiau fel fonscolombei yn hytrach na fonscolombii. Ar hyn o bryd mae o fewn y genws Sympetrum, ond mae tystiolaeth genetig yn dangos na ddylai fod, felly ni fydd yn aros yn hir iawn o fewn y genws hwn.

Mae hyd ei adenydd yn 40mm ac mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Mai Hydref- ger llwyni coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr.

Mae'r Gwäell wythien goch (neu'r S. fonscolombii fel y caiff ei alw gan naturiaethwyr) yn hynod o debyg i'r Crocothemis erythraea - yn benaf oherwydd eu lliw coch llachar, gyda bonyn yr adenydd yn felyn. Fodd bynnag, nid oes gan C. erythraea ddu ar ei goesau na'i ben, ac mae ei gorff yn fwy llydan.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu