Gwŷr y Bwyelli Bach

grwp o drigolion o ardal Cefn Sidan a Phen-bre yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yn y 19g

Rhai o drigolion o ardal Cefn Sidan a Phen-bre yn Sir Gaerfyrddin, de Cymru, yn y 19g oedd Gwŷr y Bwyelli Bach. Arferent gynnau coelcerth ar ben Mynydd Pen-bre yn ystod storm er mwyn denu llongau i'r creigiau. Yna, byddai'r trigolion lleol yn ei heglu am y traethau i hel yr ysbail - celfi, casgenni neu fodrwyau a naddwyd i ffwrdd o fysedd chwyddedig gyda chymorth cyllyll, sef tarddiad yr enw arnynt. Credir fod dros 300 o longddrylliadau wedi bod ar yr arfordir yma, ond does neb yn gwybod faint o'r rhain a achoswyd gan Wŷr y Bwyelli Bach.[1]

Gwŷr y Bwyelli Bach
Ôl llongddrylliad ar draeth Cefn Sidan
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl Edit this on Wikidata

Mae'r gwahaniaeth rhwng y penllanw a'r trai yn bellter o dros ddwy filltir a gan fod y tywod yn symyd fe ddatgelir sgerbydau cychod yn awr ac yn y man. Yn Chwefror 2014 daeth pum cwch i'r golwg.[2] Ond mae'n debyg, gan mai tueddu i dyfu y mae'r traeth, mai ar y tywynnau a'r pinwydd y mae'r rhan fwyaf o olion y gorffennol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Wales Online; adalwyd 16 Medi 2014.
  2. Gwefan y Llanelli Star; Teitl: Five unseen shipwrecks emerge from Pembrey beach; adalwyd 16 Medi 2014
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.