Cefn Sidan
traeth yn Sir Gaerfyrddin
Traeth yn nghymuned Pen-bre a Phorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, yw Cefn Sidan. Mae'n ymestyn am saith milltir rhwng aber Afon Gwendraeth ac Afon Llwchwr, ac yn rhan o Barc Gwledig Penbre ger Llanelli.
Math | traeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-bre a Phorth Tywyn |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Gwendraeth Fawr, Afon Llwchwr |
Cyfesurynnau | 51.7024°N 4.3746°W |
Yn y 19g roedd y traeth yma yn beryglus iawn i longau hwyliau, a bu llawer o longddrylliadau yma. Ymhilith y rhai a foddwyd yma roedd nith i Napoleon. Erbyn hyn mae'r traeth tywodlyd yn atyniad i ymwelwyr.