Pen-bre

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref mawr yng nghymuned Pen-bre a Phorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pen-bre[1] (Saesneg: Pembrey).[2] Saif ar lan Bae Caerfyrddin, ychydig i'r gorllewin o dref Porth Tywyn (Tywyn Bach), rhwng aber Afon Llwchwr ac aber Afon Gwendraeth.

Pen-bre
Eglwys Sant Illtyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-bre a Phorth Tywyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6927°N 4.2841°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN4201 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
Map

Ceir nifer o fryngeiri o Oes yr Haearn gerllaw, a chafwyd hyd i grochenwaith Rhufeinig yn y pentref.

Cysegrwyd yr eglwys (sydd wedi'i gofrestru'n Radd II*) i Sant Illtud, a cheir corlan anifeiliaid yn erbyn wal yr eglwys o'r 18g, ar ei gynharaf. Mae corff a changell yr eglwys yn perthyn i'r 13g a cheir ynddi arfbais deuluol y Butleriaid (le Boteler), sef tri chwpan - ar ffenest yn ne-ddwyrain yr eglwys.[3] Roedd Sant Illtyd yn sant ar nifer o'u heglwysi mewn tiroedd eraill a oedd yn eu meddiant gan gynnwys: Castell Dunraven ger Southerndown ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd y tiroedd yma ym Mhen-bre i Syr John Butler gan Maurice de Londres yn 1128.[4] Roedd Arnold le Boteler yn un o gyndadau'r Arlywydd George W. Bush a'r Arlywydd James Abram Garfield Arlywyddion o'r Unol Daleithiau.

Yn ystod y ddau Ryfel Byd, adeiladwyd maes awyr yma - a ddefnyddir heddiw i rasio ceir. Mae'r traeth yn rhan o Barc Gwledig Pen-bre, sydd hefyd yn cynnwys Twyni Pen-bre. Bu llawer o fwyngloddio ar Fynydd Penbre.

Daw'r "Bre" yn yr enw Pen-bre o'r hen air Celtaidd am "garth".[5] Ystyr cyfoes "Pen-bre" felly yw "pen y garth".[6]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[7] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[8]

Llongddrylliadau golygu

Gerllaw mae traeth Cefn Sidan, oedd yn enwog am longddrylliadau yn nyddiau'r llongau hwyliau. Yr enwocaf oedd llongddrylliad y llong La Jeune Emma yn 1828, pan foddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre. Galwyd trigolion yr ardal a ddenai'r llongau i'r tir yn Wŷr y Bwyelli Bach.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 31 Hydref 2021
  3. Gwefan www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 16 Medi 2014
  4. E. Roberts ac H., A. Pertwee, St. Illtyd’s Church, Pembrey (1898)
  5.  garth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2021.
  6.  Etymology Of British Place-names.
  7. Gwefan Senedd Cymru
  8. Gwefan Senedd y DU
  9. U.S. Department of the Interior[dolen marw]; adalwyd 16 Medi 2014

Dolen allanol golygu

Pen-bre a Phorth Tywyn Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback.