Llurs
Mae'r Llurs, Alca torda, yn un o aelodau mwyaf teulu'r Alcidae, a'r unig aelod o'r genws Alca.
Llurs | |
---|---|
Llurs yn dechrau hedfan yn Ynys Sgomer; 2021 | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Alcidae |
Genws: | Alca Linnaeus, 1758 |
Rhywogaeth: | A. torda |
Enw deuenwol | |
Alca torda Linnaeus, 1758 |
Mae'r Llurs rhwng 38 a 43 cm o hyd a 60–69 cm ar draws yr adenydd. Fel y rhan fwyaf o'r teulu mae'r cefn yn ddu a'r bol yn wyn, ond gellir ei adnabod oddi wrth y pig, sy'n llawer mwy na phig y Gwylog er enghraifft. Mae'r gynffon yn hirach na chynffon y Gwylog hefyd.
Yn y gaeaf mae'n treulio ei amser ar y môr agored, ac yn aml yn symud i'r de o'r ardaloedd lle mae'n nythu. Yn y tymor nythu mae'n ymgasglu'n heidiau lle mae creigiau addas ar lan y môr. Mae'n gyffredin y ddwy ochr i Fôr Iwerydd; yn ymestyn cyn belled i'r de a gogledd Ffrainc ar ochr Ewrop a chyn belled a Maine yn Unol Daleithiau America. Mae'r wyau yn cael eu dodwy ar silffoedd ar y creigiau, heb unrhyw fath o nyth, ond mae siâp yr ŵy yn help i'w gadw rhag syrthio. Maent yn bwyta pysgod, sy'n cael eu dal trwy nofio dan y dŵr.
Yng Nghymru maent yn adar pur gyffredin lle mae creigiau ger y môr yn cynnig lle addas iddynt ddodwy eu wyau.