Agor y brif ddewislen

Ynys fechan anghyfanedd i'r gorllewin o Ynys Skomer oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Gwales (hefyd Ynys Gwales; Saesneg: Grassholm o'r geiriau Hen Norseg grass "gwair" a holm "ynys isel"). Gwales yw'r tir mwyaf gorllewinol yng Nghymru.

Gwales
Gannets on Grassholm - geograph.org.uk - 174369.jpg
Math ynys, bird colony, gwarchodfa natur Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 0.089 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 42 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Sianel San Siôr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.7311°N 5.4796°W Edit this on Wikidata
Hyd 0.5 cilometr Edit this on Wikidata
Ar gyfer y wefan o'r un enw, gweler Gwales.com.

CadwraethGolygu

Mae'n adnabyddus i ornitholegwyr am ei choloni anferth o fulfrain gwynion (huganau); 32,409 o barau yn 2004, sef tua 8% o boblogaeth y byd. Ers 1947 mae'n eiddo i'r RSPB, y warchodfa gyntaf i'r gymdeithas honno brynu. Dyma'r trydydd nifer mwyaf yn Ewrop a'r 4ydd drwy'r byd.

Mae Gwales wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

MabinogiGolygu

Yn llenyddiaeth Gymraeg mae Gwales yn fwy adnabyddus fel yr ynys arallfydol y mae'r saith arwr a ddihangasant o Iwerddon yn treulio 80 mlynedd arni yng nghwmni pen Bendigeidfran, yn ôl chwedl Branwen ferch Llŷr, ail gainc Pedair Cainc y Mabinogi:

Ac yng Ngwales ym Mhenfro y byddwch bedwarugaint mlynedd. Ac yny agoroch y drws parth ag Aber Henfelen, y tu at Gernyw, y gellwch fod yno a'r pen yn ddilwgr gennwch.[2]

CludiantGolygu

Mae llongau pleser yn hwylio i Wales o Martin's Haven yn yr haf.

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  2. Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd, 1989). Tud. 45. Diweddarwyd yr orgraff.

Dolen allanolGolygu