Marloes

pentref yn Sir Benfro

Pentref bychan yng nghymuned Marloes a Sain Ffraid, Sir Benfro, Cymru, yw Marloes.[1][2] Saif yng ngorllewin y sir ar lan Bae Sain Ffraid. Cyfeirir at y penrhyn y saif arno fel "Penrhyn Marloes" yn ogystal. Mae'n gymuned wasgaredig tua 8 milltir i'r gorllewin o Aberdaugleddau. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Marloes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7294°N 5.1946°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM793083 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Mae Marloes yn adnabyddus am ei draeth ardderchog a leolir milltir i'r gogledd o'r pentref. Mae'r clogwynni hen dywodfaen coch yn enwog ym myd daeareg fel enghreifftiau gwych o'r graig honno.

Gyferbyn i ben y penrhyn mae Ynys Sgomer a'i bywyd gwyllt. I'r de o Farloes mae pentref Dale a Bae Westdale. Glaniodd Harri Tudur ym Mill Bay ym 1485 ac oddi yno deithiodd drwy Gymru i Faes Bosworth.

Llongddrylliad yr Albion

golygu

Lleolir olion llong 'Yr Albion' ar 'Draeth Albion', i'r de-orllewin o bentref Marloes. Yn 1831 yr adeiladwyd y stemar padlo pren hwn ym Mryste a hynny gan Gwmni General S. P. i gludo pobl a nwyddau rhwng Bryste Ddulyn. Yn 1837, yn sydyn, gorfodwyd capten y llong i geisio osgoi bwrw mewn i gwch rhwyfo gyda phedwar dyn ar ei bwrdd. Achosodd y newid cyfeiriad hwn, a grym y llanw, i'r Albion daro craig.[3] Yn y 2020au cynnar, bu archwilio archaeolegol manwl ar weddillion y llong.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2021
  3. [https://cherishproject.eu/en/project-areas/welsh-project-areas/12-grassholm-skomer-marloes/ Prosiect CHERISH; adalwyd 3 Ebrill 2024.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato