Gwallt yn y Gwynt

(Ailgyfeiriad o Gwallt Yn Y Gwynt)

Yn dilyn llwyddiant y "sioe bop" Sachlïain a Lludw ym 1971, aeth Cwmni Theatr Cymru ati i greu ail sioe sef Gwallt yn y Gwynt ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Hwlffordd ym 1972

Gwallt yn y Gwynt
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
MathSioe Gymraeg
Dyddiad y perff. 1af1972
CyfarwyddwrLyn T Jones
Llun o'r sioe Gwallt Yn Y Gwynt 1972

Un sy'n hel atgofion am y sioe yw'r actor Mici Plwm yn ei hunangofiant.[1] Roedd Mici ar y pryd yn amlwg iawn fel 'DJ' (troellwr disgiau) felly yn gyfarwydd iawn â sîn roc y cyfnod: "...roedd Wilbert [Lloyd Roberts] â'i glust ar y ddaear hefyd. Yn cydfynd â llwyddiant y disco yn Steddfod Bangor ac un arall wythnos yn ddiweddarach yng Nghorwen, fe aeth o ymlaen i drefnu Sachliain a Lludw ac fe agorodd yn y Coleg Technegol - sioe lwyfan anhygoel gyda Meic Stevens a Heather Jones ynghyd â'r defnydd o oleuadau. Y flwyddyn wedyn, yn Steddfod Hwlffordd, fe gynhyrchodd y Cwmni Theatr sioe arall i bobol ifanc, Gwallt yn y Gwynt. Cefais wahoddiad gan Wilbert i fynd i lawr i agor y sioe honno, a gâi ei chyfarwyddo gan Lyn T. Jones." [1]

"Yno hefyd, gyda llaw, yn Hwlffordd y penderfynodd Y Tebot Piws roi'r ffidil yn y to gan gyhoeddi o'r llwyfan eu bod nhw'n canu am y tro olaf. Roedd yna lawer yn teimlo'n ddiflas y noson honno [...] Hwn oedd adeg gwir dwf y byd pop Cymraeg. Roedd y peth yn tyfu ac yn tyfu. [Recordiau] Sain yn rhyddhau recordiau, a chyngherddau mawr yma ac acw," ychwanegodd Mici Plwm.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Plwm, Mici (2002). Meical Ddrwg O Dwll Y Mwg. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860 741886.