Diffinnir gwareiddiad fel cymdeithas neu grŵp diwylliannol dynol a nodweddir gan amaethyddiaeth a phresenoldeb dinasoedd. O'i gymharu a diwylliannau symlach, nodweddir cymdeithas o'r fath yma gan fwy o rannu swyddogaethau rhwng ei haelodau. Yn aml, defnyddir "gwareiddiad" yn yr ystyr o "ddiwylliant"; er enghraifft pan sonir am Wareiddiad yr Inca, mae'r term yn cynnwys holl agweddau diwylliant yr Inca. Ystyrir disgrifio pobloedd fel "anwariaid" yn sarhaus.

Gwareiddiad
Mathcymdeithas Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebdiwylliant cyntefig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Crud gwareiddiad: map braslun o Fesopotamia

Datblygodd gwareiddiadau o ganlyniad i amaethyddiaeth. Dan amodau ffarfriol, gall hyn arwain at gynhyrchu mwy o fwyd nag sydd ei angen ar y pryd. Mae grawnfwyd yn arbennig o bwysig yma, oherwydd gellir ei gadw wrth gefn am gyfnod hir. Gyda bwyd wrth gefn, gall rhai o aelodau'r gymdeithas wneud pethau heblaw cynhyrchu bwyd, a gwelir datblygiad crefftwyr, offeiriaid ac eraill. Ceir trefn gymdeithasol fwy cymhleth, a gwelir datblygiad gwladwriaeth.

Elfen bwysig arall yn y rhan fwyaf o wareiddiadau yw ysgrifennu, a ddatblgwyd gyntaf, hyd y gwyddir, yn Sumer.

Gwareiddiadau hynafol golygu