Swmer

(Ailgyfeiriad o Sumer)

Gwareiddiad hynafol amaethyddol cynnar oedd Swmer (hefyd weithiau Swmeria) a leolwyd yn Mesopotamia, sef ardal Irac a dwyrain Syria fodern yn y Dwyrain Canol.

Map o ddinesi Swmer

Swmer oedd gwareiddiad dinesig gyntaf Mesopotamia[1] ac un o wareiddiadau dinesig cynharaf y byd. I wareiddiad Swmer mae'r testunau ysgrifenedig cynharaf sydd wedi goroesi yn perthyn; yn Swmer hefyd ceir yr enghreifftiau hysbys cynharaf o ddinasoedd parhaol ac roedd y rhain yn cynnwys Eridu, Ur ac Uruk, sy'n dyddio i 3300 CC.

Concrwyd Swmer tua 1940 CC a chafodd yr iaith Swmereg ei disodli'n raddol gan Acadeg; fodd bynnag cafodd Swmer ddylanwad sylweddol ar wareiddiadau hwyrach yn yr ardal, gan gynnwys Akkad a Babylon.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. King, Leonid W. (2015) A History of Sumer and Akkad (ISBN 1522847308)