Anifeiliaid yn llên gwerin Cymru yw gwartheg y llyn. Y straeon hyn yw'r ffurf Gymreig ar wartheg arallfydol ym mytholeg Geltaidd. Lliw gwyn, megis ysbrydion, sydd gan wartheg y llyn, yn wahanol i chwedlau tebyg yn yr Alban ac Iwerddon a sonir am wartheg cochion â chlustiau gwynion. Roedd modd i wartheg y llyn dod i'r byd daearol a pharu gyda buchod meidrol, neu i aros yn y byd hwn a chynhyrchu llaeth ar gyfradd ryfeddol, er budd y ffermwr lleol.[1]

Enghreifftiau o chwedlau o'r fath yw'r Fuwch Frech o Fynydd Hiraethog a'r Fuwch Gyfeiliorn o Aberdyfi.

Cyfeiriadau golygu

  1. Patricia Monaghan, The Encyclopedia of Celtic Mythology and Folklore (Efrog Newydd: Facts On File, 2004), t. 233.