Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (neu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru) yn darparu gofal a thriniaeth frys cyn-ysbyty 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn drwy ddefnyddio nifer o ambiwlansau dros Gymru benbaladr. Caiff ei reoli gan ymddiriedolaeth sydd a'i bencadlys yn Llanelwy ac mae'n rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG).[1]

Logo Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae'r gwasanaeth ar ganol cynllun datblygu 5 mlynedd, sef ymgais i'w foderneiddio a'i wneud yn fwy effeithiol.

Fe'i sefydlwyd ar 1 Ebrill 1998 ac mae ganddo 2,500 o staff sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth ledled Cymru i tua 3 miliwn o bobl.[2]

Ambiwlans Mercedes Benz 519 Sprinter yn Abergwaun, 2011

Bwrdd yr Ymddiriedolaeth golygu

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys 13 aelod, pob un â hawl pleidleisio a'i swyddogaeth yw:

  • Gosod polisi a chyfeiriad strategol
  • Rheoli’r Risg
  • Rheoli ei phobl a’i hadnoddau
  • Sefydlu systemau rheolaeth i’w galluogi i fesur cynnydd a pherfformiad yn effeithiol ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni
  • Gweithio mewn partneriaeth a gyda budd-ddeiliaid allweddol yn fewnol ac yn allanol.

Canolfan Reoli a Chyfarthrebu golygu

Mae'r ganolfan reoli a chyfathrebu yn ateb galwadau gan bobl sy'n ffonio 999 am ambiwlans. Ceisiant, yn ystod yr alwad, benderfynu pa ofal sydd ei angen ac os oes angen cymorth brys, byddant yn anfon ambiwlans neu gerbyd ymateb cyflym (RRV) ac yn rhoi cyfarwyddiadau nes bod help yn cyrraedd. Os nad yw'r alwad yn un brys, gallant drosglwyddo'r alwad i ymgynghorydd nyrsio yn 'Galw Iechyd Cymru' i gael asesiad. Mae'r ganolfan hefyd yn cymryd galwadau o ysbytai sy'n gofyn am drosglwyddo cleifion mewn argyfwng neu frys, i ysbytai eraill pan fo'r claf angen gofal neu driniaeth yn ystod y daith.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. www.ambulance.wales.nhs.uk; gwefan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
  2. "Home: About us". Welsh Ambulance Service. Cyrchwyd 3 August 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato