Ambiwlans
Cerbyd y gwasanaeth iechyd ydy Ambiwlans sy'n cludo cleifion neu bobl wedi'u hanafu.
Math | emergency vehicle, rescue vehicle |
---|---|
Rhan o | emergency medical services |
Gweithredwr | gyrrwr ambiwlans, emergency medical services |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er bod y mwyafrif o ambiwlansau'n teithio'n gyflym er mwyn ymateb i argyfwng, mae nifer ohonynt yn cael eu defnyddio er mwyn trawsgludo cleifion rhwng ysbytai ('Gwasanaeth Gofal Cleifion'). Yn yr ambiwlans ceir parafeddygon ac fel arfer mae un ohonynt yn gyrru'r cerbyd. Ceir gwahanol mathau, gan gynnwys hofrennydd ac fel arfer mae ganddynt oleuadau glas er mwyn rhybuddio pobl a gyrwyr cerbydau eraill eu bod yn teithio'n gyflym.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n darparu gofal a thriniaeth frys cyn ysbyty 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Caiff ei reoli gan Ymddiriedolaeth sydd a'i bencadlys yn Llanelwy.