Ambiwlans Awyr Cymru
Elusen gofrestredig yw Ambiwlans Awyr Cymru (Saesneg: Wales Air Ambulance) sy'n gweithredu drwy Gymru gyfan ac sy'n "cynnig gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rheini sy'n dioddef salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd."[1] Dyma'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yng ngwledydd Prydain.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad elusennol, air medical services organization |
---|---|
Gweithwyr | 83, 103, 95, 89, 91 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
Pencadlys | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.walesairambulance.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd ei sefydlu yn 2001. Erbyn y flwyddyn honno Cymru oedd yr unig wlad yn Ewrop gyfan heb wasanaeth ambiwlans awyr.[2] Erbyn 2016 roedd gan yr eluseun 4 hofrenydd Eurocopter EC135 a 4 criw 'helimed' - peilot a dau barafeddyg wedi eu secondio o'r NHS - wedi'u lleoli yng Nghaernarfon, Y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd i wasanaethu Cymru.[1] ac roedd wedi hedfan cyfanswm o 24,000 o deithiau achub - 1,600 y flwyddyn. Ar gyfartaledd, cafwyd 120 o ddamweiniau fferm bob blwyddyn.
Ariannir y gwasanaeth ambiwlans awyr hwn drwy roddion gan y cyhoedd yn unig; nid yw'n derbyn grantiau'r Loteri Genedlaethol nac unrhyw arian gan y llywodraeth. Cost pob hedfaniad ar gyfartaledd yn 1916 oedd £1,500 a chost y gwasanaeth (Cymru gyfan) oedd £6m. [1] Mae'n ymateb i tua 1,000 o alwadau y flwyddyn ar gost o tua £1,200 yr alwad ar gyfartaledd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Gwefan AAC[dolen farw]
- ↑ 2.0 2.1 Gwefan AAC[dolen farw]
- Diweddarwyd yr erthygl yn 2016. Ffynhonnell: erthygl yn y Daily Post', 10 Awst 2016.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol[dolen farw] Ambiwlans Awyr Cymru.