Cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Officium Parvum Beatae Mariae Virginis yw Gwassanaeth Meir (Cymraeg Diweddar: Gwasanaeth Mair). Mae'r testun, gan awdur dienw, i'w ddyddio i'r 14g.[1]

Gwassanaeth Meir
Enghraifft o'r canlynolcyfieithiad Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Canol Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Testun Cymraeg Canol yw Gwassanaeth Meir sy'n gyfieithiad o'r testun Lladin eglwysig Officium Parvum Beatae Mariae Virginis, gwasanaeth byr er anrhydedd i'r Forwyn Fair. Mae'r copi cynharaf ar glawr yn dyddio o tua 1400 ac fe gredir fod y testun ei hun yn perthyn i'r 14g.[1]

Mae'n gyfieithiad mydryddol sy'n defnyddio cymysgiad o fesurau caeth a mesurau rhydd; mae hyn yn dangos bod y cyfieithydd yn fedrus yn nwy gangen celfyddyd fydryddol y cyfnod yng Nghymru.[1]

Golygiad golygu

Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru y testun wedi'i olygu gan Brynley F. Roberts, a hynny yn 1961. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[2] ISBN 9780708302897 .

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Geriant Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974).
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013