Gweinydd (cyfrifiadur)

Mewn cyfrifiadura, mae gweinydd (ll. gweinyddion; Saesneg: server) yn cyfeirio at ddyfais neu'n set o ddyfeisiadau sydd a rhaglen gyfrifiadurol yn rhedeg arnynt er budd rhaglenni neu ddyfeisiadau eraill a elwir yn "gleientiaid". Gelwir y dull y maen nhw'n cysylltu a'i gilydd yn "bensaerniaeth cleient-gweinydd". Gallant wneud amryw o bethau (a elwir yn "wasanaethau"), megis rhannu data neu adnoddau eraill rhwng y cleientiaid, neu wneud cyfrifiannau i'r cleient. Gall un gweinydd wasanaethu sawl cleient, a gall un cleient ddefnyddio sawl weinyddwyr ar y tro.[1] Yn wreiddiol, roedd y term 'gweinydd' yn cyfeirio at y feddalwedd, ond gydag amser daeth i olygu'r ddyfais lle'r eisteddai'r feddalwedd. Ar rwydwaith o weinyddion, gelwir y gweinydd canolog yma yn "westeiwr" (host).

Rhes o weinyddion Sefydliad Wicimedia, Gorffennaf 2012.

Ceir gwahanol fathau o weinyddion, gan gynnwys y gweinydd data, gweinydd ffeiliau, gweinydd post, gweinydd argraffu, gweinydd gwe, gweinydd gemau a gweinydd i redeg rhaglenni cyfrifiadurol.[2]

Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio ar y model a elwir yn "fodel gofyn a rhoi" (request–response model), lle mae'r cleient yn anfon cais i'r gweinydd, sydd yn ei dro yn gweithredu mewn rhyw fodd, ac yna'n danfon neges yn ôl i'r cleient, a'r cleient yntau'n cadarnhau hynny. Mae labelu cyfrifiadur fel gweinydd yn awgrymu ei fod yn gyfrifiadur arbenigol sy'n rhedeg gweinyddion mewnol. Fel arfer, dim ond cyfrifiaduron cadarn, pwerus, sy'n cael eu defnyddio i'r pwrpas yma.

Rhwydwaith o weinyddion ar ddull 'model cleient-gweinydd'. Gelwir y gweinydd canolog yma yn "westeiwr" (host).

Bathiad golygu

Bathwyd y gair Cymraeg yn niwedd y 1990au; cyfieithiad yw o'r gair Saesneg server a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf i'r ddogfen RFC 5, a sgwennwyd yn 1969 i ddisgrifio'r ARPANET, rhagflaenydd y rhyngrwyd.

Mae'r diffiniad cyntaf i'w gael yn The Jargon File:

SERVER n. A kind of DAEMON which performs a service for the requester, which often runs on a computer other than the one on which the server runs.

Pwer golygu

Yn 2012, roedd canolfannau gweinyddu'n (hy canolfannau o weinyddion) yn gyfrifol am ddefnyddio 1.1-1.5% o'r trydan a gynhyrchwyd yn fydeang.[3]

 
A server rack seen from the rear
A server rack seen from the rear 
 
Gweinydd gyda'i orchudd wedi agor a'i dynnu, er mwyn gweld y tu mewn
Gweinydd gyda'i orchudd wedi agor a'i dynnu, er mwyn gweld y tu mewn 
 
Wikimedia Foundation servers as seen from the rear
Wikimedia Foundation servers as seen from the rear 
 
Wikimedia Foundation servers as seen from the rear
Wikimedia Foundation servers as seen from the rear 

Cyfeiriadau golygu

  1. Windows Server Administration Fundamentals. Microsoft Official Academic Course. 111 River Street, Hoboken, NJ 07030: John Wiley & Sons. 2011. tt. 2–3. ISBN 978-0-470-90182-3.CS1 maint: location (link)
  2. Comer, Douglas E.; Stevens, David L. (1993). Vol III: Client-Server Programming and Applications. Internetworking with TCP/IP. Department of Computer Sciences, Purdue University, West Lafayette, IN 479: Prentice Hall. tt. 11d. ISBN 978-0-13-474222-9.CS1 maint: location (link)
  3. Markoff, John (31 Gorffennaf 2011). "Data Centers Using Less Power Than Forecast, Report Says". NY Times. Cyrchwyd 18 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)