Gweithgynhyrchu yng Nghymru

Er i bwysigrwydd y diwydiannau trymion yng Nghymru ostwng ers canol yr 20g, mae gweithgynhyrchu yn dal i gyfrif am ychydig llai na thraean o gynnyrch mewnwladol crynswth y wlad. Amrywiaethodd y sector hwn o economi Cymru o ganlyniad i ddatblygiad cludiant as isadeiledd yn y de ddwyrain a'r gogledd ddwyrain, gan gynnwys buddsoddiad gan gwmnïau tramor sy'n gwneud cynnyrch trydanol, modurol, a chemegol. Mae bwydydd a diodydd, metelau, ac offer optegol hefyd yn bwysig.


Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.