Economi Cymru
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Yn draddodiadol seilir economi Cymru ar ddiwydiannau mwyngloddio, amaeth a gweithgynhyrchu ond yn ddiweddar mae galwedigaethau mwy modern ac amrywiol, yn enwedig o fewn y sector gwasanaethau, wedi datblygu fel rhan ganolog yr economi Gymreig.
Yn gyffredinol gellir dweud bod economi cyfoes Cymru yn adlewyrchu tueddiadau a phatrymau gweddill y Deyrnas Unedig, ond yn wir mae nifer o agweddau arbennig iddo. Mae gan Gymru gyfrannau uwch o weithwyr ym meysydd amaethyddiaeth a choedwigaeth, gweithgynhyrchu, a'r sector gyhoeddus, ac mae ganddi lai o swyddi yng ngwasanaethau busnes a chyllid, er bod y meysydd hyn yn ffynnu ac yn ganolbwynt gan y llywodraeth ar ddatblygu'r economi.
Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sy'n rheoli faint o'i harian mae Cymru'n ei gael. Cesglir yr arian gan y ddwy lywodraeth, cedwir swm er mwyn talu am bethau megis HS2, byddin Lloegr a rhennir y gweddill drwy Fformiwla Barnett. Yn 2017, y rhanbarth tlotaf yng Ngogledd Ewrop oedd Gorllewin Cymru. Canran yr holl unigolion, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru yn 2016-7 oedd 23%, o'i gymharu â 22% yn Lloegr, a dim ond 19% yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Roedd mwy nag un o bob pump o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi rhwng 2001 a 2016.[1][2]
Yn ôl deddfau’r DU, rhaid i Gymru dalu am eitemau nad ydyn nhw o fudd uniongyrchol i Gymru e.e. dros £5 biliwn ar gyfer HS2 "a fydd yn niweidio economi Cymru o £200m y flwyddyn", yn ôl cynghorydd trafnidiaeth Llywodraeth y DU a Chymru, yr Athro Mark Barry. Mae Cymru hefyd yn talu mwy am gostau milwrol na'r mwyafrif o wledydd o faint tebyg e.e. Mae Cymru yn talu dwywaith y swm y mae Iwerddon yn ei wario ar eu byddin.[3] Mae llywodraeth y DU yn gwario £1.75bn y flwyddyn ar y fyddin yng Nghymru sydd bron cymaint ag y mae Cymru yn ei wario ar addysg bob blwyddyn (£ 1.8 biliwn yn 2018/19) a phum gwaith cymaint â'r cyfanswm gwariwyd ar yr heddlu yng Nghymru (£ 365 miliwn).[4]
Fodd bynnag, mae'r gwaith o ddatblygu'r economi, gan Lywodraeth Cymru'n bennaf, yn rhoi'r wlad (o'i chyferbynnu a gwledydd eraill) ar dir uchel. Fodd bynnag, yn 2018, yn ôl data OECD ac Eurostat, roedd cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) yng Nghymru yn £75 biliwn, cynnydd o 3.3% ers 2017. CMC y pen yng Nghymru yn 2018 oedd £23,866, cynnydd o 2.9% ar 2017. Mae hyn yn cymharu â CMC / capita yr Eidal o £25,000, Sbaen £22,000, Slofenia £20,000 a Seland Newydd £30,000.[5][6] Yn 2019 cynhyrchodd Cymru refeniw treth o £27BN, sef tua 36% o CMC, ac mae ganddi wariant o £40.1Bn, gan adael diffyg ar bapur o £13.7 biliwn, o’i gymharu â diffyg Llywodraeth gyffredinol y DU o £350 biliwn.[7]
Yn 2006, amcangyfrifodd astudiaeth ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod £2 biliwn – dros hanner o'r arian sy'n cael ei wario gan gyrff cyhoeddus Cymru – yn "gadael" economi'r wlad trwy gael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau cwmnïau y tu allan i Gymru. Er hyn bu chwarter o gyflenwadau bwyd a diod cynghorau, ysgolion ac ysbytai yn cael eu prynu oddi wrth gwmnïau Cymreig, sef cynnydd o 6% mewn tair blynedd.[8]
Hanes economaiddGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Daearyddiaeth economaiddGolygu
Oherwydd tirwedd nodweddiadol Cymru defnyddir tua 80% ohoni ar gyfer amaethyddiaeth; rhyw 30 000 o ffermydd sydd ar draws y wlad.[9] Tir mynyddig gydag ucheldiroedd bugeiliol sydd yng Ngogledd Cymru. Yn Ne Cymru y mae diwydiant wedi'i ganoli, yn bennaf yn ninasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Ers y Chwyldro Diwydiannol mae'r farchnad lafur wedi mudo'n raddol i ardaloedd diwydiannol y de ac felly'n lleihau'r boblogaeth yn y gogledd. Lleolir y diwydiant pysgota ar hyd Môr Hafren.
BusnesGolygu
Mae cwmnïau a busnesau Cymreig wedi cael eu disgrifio fel "asgwrn cefn economi Cymru".[10][11] Mae 99% o'r busnesau yng Nghymru yn Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), sy'n cyflogi llai na 250 o bobl, a'r mwyafrif ohonynt yn ficro-sefydliadau, hynny yw maent yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. Er y nifer fawr o fusnesau bach a chanolig, y prif gyflogwr yng Nghymru yw'r sector cyhoeddus.[12]
Daw rheoliadau perchenogaeth busnes yng Nghymru o dan gyfraith Cymru a Lloegr. Y mathau gwahanol o fusnesau a chwmnïau yw Cwmni Rhwymedigaeth Cyfyngedig Cyhoeddus, Cwmni Rhwymedigaeth Cyfyngedig, Partneriaeth Gyffredinol, Partneriaeth Gyfyngedig, Unig Fasnachwr, Cydweithrediad, a Phartneriaeth Rhwymedigaeth Cyfyngedig.
SectorauGolygu
Adnoddau a phŵerGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Amaeth, coedwigaeth, a physgotaGolygu
Cynhyrchodd amaethyddiaeth yng Nghymru amcangyfrif Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) o £457 miliwn yn 2017. Roedd hyn yn cynrychioli 0.8% o gyfanswm GVA Cymru ar gyfer y flwyddyn honno a 4% o gyfanswm GVA y DU ar gyfer amaethyddiaeth. Mae amaethyddiaeth yn cynrychioli canran uwch o economi Cymru nag y mae i'r DU ar y cyfan (0.6%).[13]
Gwasanaethau a thwristiaethGolygu
Mae gwasanaethau ariannol a busnes, y sector cyhoeddus (yn cynnwys y llywodraeth, addysg, a gwasanaethau iechyd), gwestai, bwytai, a masnach yn cyfrif am dros hanner CMC a bron dau draean o gyflogaeth yng Nghymru.
Ffynhonnell bwysig arall o incwm yw twristiaeth, yn bennaf y parciau cenedlaethol a'r arfordir. Mae hygyrchedd Coridor yr M4 nid yn unig yn denu busnesau i de Cymru ond yn denu twristiaid hefyd.
GweithgynhyrchuGolygu
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
EiddoGolygu
Ym mhedwerydd chwarter 2007 fe ddatganodd banc Halifax taw £167 107 yw'r pris tŷ cyfartalog yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig £197 017. Er hyn fe gynyddodd prisoedd tai yng Nghymru gan 0.9% yn y chwarter hwn o'i gymharu â gostyngiad cyfartalog o 0.8% ar gyfer y DU; ond mae cynnydd blynyddol prisoedd yng Nghymru (3.9%) dal yn is na'r DU i gyd (5.2%). Caerdydd sydd a'r prisoedd tai uchaf yng Nghymru gyda phris cyfartalog o £174 375.[14]
Polisi economaiddGolygu
Mae'r gostyngiad mewn CMC y pen yng Nghymru (o gymharu â chyfartaledd y DU) ym mlynyddoedd diweddar wedi annog dadl polisi economaidd. Awgryma rhai, megis Plaid Cymru,[15] y dylai Gymru efelychu model Wyddelig y Teigr Celtaidd, yn enwedig ei chyfraddau treth gorfforaeth isel, er mwyn ysgogi buddsoddiad a thwf economaidd. Ond dadleua economegwyr megis Nicholas Crafts[16] a John Bradley[17] taw dim ond o fewn amgylchiadau demograffig a hanesyddol arbennig Gweriniaeth Iwerddon yn hwyr y 1980au a'r 1990au yr oedd y dreth gorfforaeth isel yn effeithiol, a bydd mabwysiadu'r fath bolisi mewn cyd-destun economaidd gwahanol iawn nid yn unig yn gofyn am annibyniaeth wleidyddol, ond gall fod yn gymharol aneffeithiol ac/neu arwain at ddewisiadau polisi annymunol rhwng trethi personol uchel a gwariant cyhoeddus isel.
Mewn adroddiad ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig yn 2003, dadleuodd Phil Cooke taw ymateb Llywodraeth y Cynulliad i'r gostyngiad o gyflogaeth gynhyrchiol yng ngweithgynhyrchu oedd amnewid swyddi newydd yn y sector cyhoeddus, ac felly gwneud Cymru'n fwyfwy ddibynnol ar drosglwyddiadau cyllidol o'r Neuadd Wen. Honnodd Cooke taw ardrefniant datganoli gymharol wan oedd ar fai am atal y Cynulliad rhag datblygu polisïau economaidd, yn enwedig wrth gymharu â'r Alban.[18] Ond yn ôl rhai beirniaid, yn cynnwys Ron Davies[19] a John Lovering, non-sequitur yw dadl Cooke (bod angen Cynulliad mwy pwerus er mwyn cael polisïau economaidd mwy effeithiol).
Nodweddion economaidd cymdeithasolGolygu
DiweithdraGolygu
Yn ystod yr ugeinfed ganrif bu dau gyfnod o ddiweithdra sylweddol yng Nghymru. Yn y 1920au cynyddodd diweithdra ymhlith glowyr o 2% yn Ebrill 1924 i 12.5% yn Ionawr 1925 a 28.5% yn Awst 1925, wrth i alw am lo o dramor gostwng wrth i wledydd eraill cynhyrchu glo eu hunain. Gwaethygodd y sefyllfa yn dilyn Cwymp Wall Street yn 1929, ac erbyn 1932 roedd diweithdra wedi cyrraedd 42.8% ac wedi treiddio nifer o ddiwydiannau eraill. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr byd-eang Cymru oedd un o'r gwledydd a gafodd ei tharo gwaethaf.[20]
Yn ystod prif-weinidogaeth Margaret Thatcher oedd yr ail gyfnod o ddiweithdra eang. Yn ystod y 1970au bu nifer o streiciau, yn cynnwys gan lowyr, ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig; profodd streic 1972 yn llwyddiannus trwy godi cyflog y glowyr. Ond pan ddaeth y Blaid Geidwadol i rym dan Thatcher yn 1979 dechreuwyd polisi o breifateiddio diwydiannau. O ganlyniad cafodd nifer o byllau glo, yn enwedig yn y Cymoedd, eu cau; ymunodd glowyr Cymru â streic genedlaethol a pharhaodd am bron i flwyddyn.[21] Cynyddodd diweithdra yng Nghymru o 65 800 (5%) yn 1979 i uchafbwynt o 166 700 (13%) yn 1986.[22]
Rhwng 1999 a 2007 bu cynnydd mewn swyddi o 12.1% yng Nghymru, o'i gymharu â 7.3% yn y Deyrnas Unedig gyfan. Yn 2007 roedd 2.8% o bobl yng Nghymru yn hawlio budd-dal diweithdra.[23]
Rhaniad Gogledd-DeGolygu
Dywedir bod rhaniad Gogledd-De yn bodoli yng Nghymru, ac mae iddi agweddau diwylliannol ac economaidd. O ran yr economi, fel y nodir uchod, mae ardaloedd trefol y de yn ffyniannus yn economaidd o gymharu ag ardaloedd gwledig a mynyddig y gogledd. Ynghyd â ffactorau diwylliannol y rhaniad (e.e. medr y Gymraeg, hunaniaeth Gymreig a chenedlaetholdeb yn uwch yn y gogledd nag yn ardaloedd y de), mae hyn yn broblem gymdeithasol yn y Gymru fodern.
TlodiGolygu
Amcangyfrifwyd yn 2008 bod 13% (tua 90 000) o blant Cymru yn byw mewn tlodi difrifol, h.y. cartrefi lle mae'r incwm aelwyd yn llai na 50% o'r incwm cyfartaledd ac o ganlyniad mae'r plant yn mynd heb ddau neu fwy o nwyddau neu wasanaethau, megis tripiau ysgol, am na all y teulu eu fforddio.[24] Er hyn, mae'r sefyllfa bresennol yn welliant ers y 1990au a'r 2000au cynnar. Gostyngodd nifer y plant mewn tlodi yng Nghymru gan 20% rhwng 1999 a 2005: o 32% o holl blant y wlad i 27%.[25] Yn 2003 roedd 33% o blant Cymru yn byw mewn tlodi,[26] gyda'r canran mor uchel â 70% neu 80% o deuluoedd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.[27]
Rhennir cyfrifoldeb tlodi yng Nghymru rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Cynulliad. Eu bwriad cyfredol yw haneru tlodi plant erbyn 2010 a'i ddileu'n llwyr erbyn 2020; yn ôl Sefydliad Achub y Plant yng Nghymru "mae'r niferoedd sy'n byw mewn tlodi dal ymhell o gyrraedd [y targedau hyn]".[24]
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Percentage of all individuals, children, working-age adults and pensioners living in relative income poverty for the UK, UK countries and regions of England between 1994-95 to 1996-97 and 2016-17 to 2018-19 (3 year averages of financial years)". Welsh Government Stats. Welsh Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-24. Cyrchwyd 18 Ionawr 2021.
- ↑ "PPIW Focus on Poverty" (PDF). Public Policy Institute of Wales. Cardiff University / Public Policy Institute of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-02-05. Cyrchwyd 18 Ionawr 2021.
- ↑ Barry, Prof. Mark. "Wales and HS2…". swalesmetroprof.blog. Cyrchwyd 13 Ionawr 2021.
- ↑ "IISS Military Balance 2020". International Institute for Strategic Studies.
- ↑ Barry, Professor Mark. "The Environment, Tax and Wales". swalesmetroprof.blog. Cyrchwyd 13 Ionawr 2021.
- ↑ Lloyd, Dai (14 Tachwedd 2020). "Wales is not a global anomaly – it can be independent just like every other nation". Nation Cymru. Cyrchwyd 13 Ionawr 2021.
- ↑ "UK set to borrow £350b and more is likely: think tank". www.businesstimes.com. 9 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 30 Ionawr 2021.
- ↑ '£2bn yn gadael economi Cymru'. BBC Cymru'r Byd (4 Hydref, 2006). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008.
- ↑ Proffiliau Diwydiannau Allweddol. GO Wales. Adalwyd ar 29 Chwefror, 2008.
- ↑ Busnes – Pleidleisiau a Thrafodion. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (23 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. ""busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru""
- ↑ Grantiau Llywodraeth y Cynulliad yn creu 122 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru (6 Mai, 2002). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. "Cwmnïau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cyfoeth a’n llwyddiant."
- ↑ Proffiliau Diwydiannau Allweddol: Trosolwg Cymru. GO Wales. Adalwyd ar 24 Mai, 2008.
- ↑ gov.wales adalwyd 30 Ionawr 2021
- ↑ (Saesneg) House Price Index: Wales, Fourth Quarter 2007. Halifax (19 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 13 Ebrill, 2008.
- ↑ Plaid Cymru i fynd a’r frwydr dros drethi i’r Trysorlys. Plaid Cymru (24 Ionawr, 2007). Adalwyd ar 20 Mehefin, 2008.
- ↑ (Saesneg) Nicholas Crafts (21 Ebrill, 2005). Productivity at the Periphery: What can Wales do to compete?. Prifysgol Caerdydd. Adalwyd ar 20 Mehefin, 2008.
- ↑ (Saesneg) John Bradley. Experiences in small European countries and regions: Committing to growth. Adalwyd ar 20 Mehefin, 2008.
- ↑ (Saesneg) Phil Cooke. Weak Devolution Settlement Hinders Economic Development. Sefydliad Materion Cymreig. Adalwyd ar 20 Mehefin, 2008.
- ↑ (Saesneg) 'Weak' assembly harming Wales. BBC (24 Tachwedd, 2003). Adalwyd ar 20 Mehefin, 2008.
- ↑ Hanes Cymru: Y Rhyfel a'r Dirwasgiad. BBC Cymru'r Byd. Adalwyd ar 1 Mawrth, 2008.
- ↑ Streiciau'r glowyr yn 1972, 1974 a 1984. Ymgyrchu!. Adalwyd ar 1 Mawrth, 2008.
- ↑ (Saesneg) Bwletin Ystadegol: Claimant count trends. Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (29 Mai, 2003). Adalwyd ar 1 Mawrth, 2008.
- ↑ Mwy yn gweithio nag erioed. BBC Cymru'r Byd (19 Gorffennaf, 2007). Adalwyd ar 1 Mawrth, 2008.
- ↑ 24.0 24.1 'Angen taclo tlodi plant'. BBC Cymru'r Byd (11 Mawrth, 2008). Adalwyd ar 18 Mawrth, 2008.
- ↑ Llai o blant Cymru'n dlawd. BBC Cymru'r Byd (6 Gorffennaf, 2006). Adalwyd ar 18 Mawrth, 2008.
- ↑ 'Mwy o dlodi yng Nghymru'. BBC Cymru'r Byd (17 Hydref, 2003). Adalwyd ar 18 Mawrth, 2008.
- ↑ 'Traean o blant yn dlawd'. BBC Cymru'r Byd (12 Tachwedd, 2003). Adalwyd ar 18 Mawrth, 2008.