Gweledigaethau y Bardd Cwsc

llyfr gan Ellis Wynne
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gweledigaethau'r Bardd Cwsg)

Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn 1703 yw Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y 18g.[1]

Gweledigaethau y Bardd Cwsc
Gweledigaethau'r Bardd Cwsg D.S.Evans (ed.) 4th ed.jpg
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Cefndir a chynnwysGolygu

Mae'r gwaith yn seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg Roger L'Estrange a John Stevens o'r llyfr Los Sueños ('Y Breuddwydion') gan y Sbaenwr Don Francisco de Quevedo (1580-1645).

Mae'r bardd yn gweld tair gweledigaeth fel mae'n modrwyo drwy'r byd (Gweledigaeth cwrs y Byd), drwy angau (Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa) a thrwy uffern (Gweledigaeth Uffern). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc ym Mrenhinllys isa Angau. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at Uffern. Llyfr bwrlesg a ysgrifennwyd mewn Cymraeg naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r Gweledigaethau. Mae'n dangos meistrolaeth yr awdur ar Gymraeg clasurol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Gweledigaeth o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys Paradwys yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o Uffern a dychan deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.

DylanwadGolygu

Ail-argraffwyd y llyfr nifer o weithiau, gan gynnwys argraffiad gan Wasg Prifysgol Cymru, a chyhoeddwyd cryn dipyn o feirniadaeth lenyddol arno.

Mae copi o argraffiad Daniel Silvan Evans (Gwasg Spurell, Caerfyrddin 1865) ar gael ar Wicidestun

LlyfryddiaethGolygu

 
Argraffiad newydd o'r Gweledigaethau (1998)
  • E. D. Evans "Golygiadau politicaidd Ellis Wynne fel yr amlygir hwy yn 'Gweledigaethau y Bardd Cwsc'" yn Llên Cymru, 31 (2008), tt. 165-176
  • R. M. Jones, Angau Ellis Wynne (Aberystwyth, 1968)
  • Gwyn Thomas, 'Ellis Wynne, y Lasynys' yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1966)
  • Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a'i Gefndir (Caerdydd, 1971). Astudiaeth gynhwysfawr.
  • Gwyn Thomas, Ellis Wynne (Cyfres Writers of Wales, 1984)
  • Gwyn Thomas, 'Gweledigaethau y Bardd Cwsg: The Visions of the Sleeping Bard (1703)'. Zeitschrift für celtische Philologie 52 (2001): 200–10.

CyfeiriadauGolygu