Daniel Silvan Evans
Offeiriad, geiriadurwr a bardd oedd Daniel Silvan Evans (11 Ionawr 1818 – 13 Ebrill 1903).
Daniel Silvan Evans | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ionawr 1818 Llanarth |
Bu farw | 12 Ebrill 1903 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | geiriadurwr, ieithydd, bardd |
Cyflogwr | |
Priod | Margaret Walters |
Plant | Tegid Aneurin Evans, John Henry Silvan Evans |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Llanarth, Ceredigion, yn fab i Silvanus a Sarah Evans. Wedi cyfnod yn ysgol Neuaddlwyd, dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr ac yn 1840 aeth i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu am gyfnod byr, cyn gweithio fel athro ysgol. Ymunodd â'r Eglwys, ac aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1845-6, gan ddod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yno yn 1847. Yn 1848 daeth yn gurad Llandegwning, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1849.
Ymhlith y gweithiau a olygwyd gan D. Silvan Evans mae ei argraffiad o Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne. Dechreuodd gyhoeddi An English and Welsh Dictionary yn 1847, gan orffen y gyfrol gyntaf yn 1852 a chyfrol 2 yn 1858. Bu'n olygydd Y Brython o 1858 i 1860. Bu'n gurad Llangian o 1852 hyd 1862, cyn cael ei benodi yn ficer Llanymawddwy, ac yn 1876 symudodd i fywoliaeth Llanwrin. Bu'n cynorthwyo yr ysgolhaig Albanaidd William Forbes Skene gyda Four Ancient Books of Wales, a chredir mai Evans a wnaeth lawer o'r gwaith mewn gwirionedd. Parhaodd i weithio ar ei Eiriadur, a chyhoeddwyd y gyfrol cyntaf, hyd y llythyren C, erbyn 1893 gyda chymorth ariannol Arglwyddes Llanover. Ni allodd orffen ei eiriadur; cyhoeddwyd y pumed rhan, yr olaf, hyd at y llythyren E, wedi ei farw.
Llyfryddiaeth
golygu- Blodeu Ieuainc (1843)
- Telynegion (1846)
- Elfennau Gallofyddiaeth (1850)
- Elfennau Seryddiaeth (1851)
- Llythyraeth yr Iaith Gymraeg (1856)
- Telyn Dyfi: Manion ar Fesur Cerdd
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |