Gwen Davies
Golygydd a chyfieithydd Cymreig yw Gwen Davies (ganed 1960au).
Gwen Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1963 Otley |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | golygydd, cyfieithydd |
Ganed Davies yr ieuengaf o bedwar o blant i deulu Cymraeg eu hiaith, a magwyd yn Otley, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr.[1][2] Ieithyddwyr oedd ei rhieni, ac roedd ei thad yn fardd.[3]
Dechreuodd Davies ei gyrfa yn 1985 fel cynorthwyydd golygyddol ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer cylchgrawn Planet yn Aberystwyth. Daeth yn reolwr y cyhoeddwr llyfrau plant, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, yn ddiweddarach, cyn dod yn Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1995.[3]
Davies oedd Golygydd Ffuglen gwreiddiol Parthian Books, gan weithio ar gyfrolau nodweddiadol megis Fresh Apples gan Rachel Trezise, a enillodd Wobr Dylan Thomas. Bu hefyd yn olygydd Alcemi Books, sef imprint ffuglen lenyddol Y Lolfa. Daeth Davies yn olygydd newydd y New Welsh Review yn 2011, gan ail-wampio'r cylchgrawn. Mae'r newydd wedd yn cynnwys darluniau gan Jamie Hamley.[1]
Mae'n byw yn Aberystwyth gyda'i gŵr a'u mab a merch.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 A new New Welsh Review. Literature Wales (2011).
- ↑ 2.0 2.1 Gwen Davies. New Welsh Review.
- ↑ 3.0 3.1 Judy Darley (12 Gorffennaf 2009). Gwen Davies of Alcemi Books describes the working relationship between editors and authors. Essential Writers.