Gwobr Dylan Thomas

Gwobr llenyddol ar gyfer llenorion ifanc yw Gwobr Dylan Thomas (Saesneg: Dylan Thomas Prize), a gaiff ei wobrwyo pob yn ail blwyddyn er cof am Dylan Thomas.

Gwobr Dylan Thomas
Enghraifft o'r canlynolgwobr lenyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2004 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.swansea.ac.uk/dylan-thomas-prize/ Edit this on Wikidata

Mae'r wobr yn dod ag adnabyddiaeth rhyngwladol a gwobr ariannol o £30,000. Mae'n agored i waith yn yr iaith Saesneg gan unrhyw un o dan 30 oed. Argymhellir y gweithiau ar gyfer y wobr gan gyhoeddwr, golygydd neu asiant; neu ar gyfer dramâu theatr neu sgrin, gan y cynhyrchydd. Mae'r wobr yn anrhydeddu'r enillydd a'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwaith mewn ystod eang o'r ffurfiau llenyddol roedd Dylan Thomas yn rhagori ynddynt; mae hyn yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, drama dychmygol, casgliadau o straeon byrion, nofelau, a dramâu ar gyfer theatr a'r sgrin.

Gwobrwywyd wobr llenyddol er cof Dylan Thomas am y tro cyntaf yn ystod yr 1980au (adnabuwyd yn Saesneg fel y Dylan Thomas Award), yn dilyn ymgyrch i osod plac i goffau'r bardd yn Abaty Westminster.[1] Cafodd cyllid dros ben a godwyd gan cyngerdd a noddwyd gan y cwmni teledu HTV ei gyfrannu er mwyn cynnig gwobr o £1000 yn flynyddol.[1] Ar ôl ychydig flynyddoedd, daeth y wobr i ben oherwydd diffyg ariannu. Ail-sefydlwyd y wobr dan ei newydd wedd yn 2004 a gwobrwywyd am y tro cyntaf yn 2006, gan gael ei noddi gan gwmni Electronic Data Systems, a oedd yn un o gyflogwyr mwyaf Abertawe ar y pryd.[2] Mae'r wobr yn cael ei redeg gan Brifysgol Cymru, ac ariannir gan gyfraniadau gwirfoddol.[3][4]

Cyflwynwyd gwobr ychwanegol o £5,000, a noddwyd gan Sony Reader, yn 2010, ar gyfer llenorion heb eu cyhoeddi. Enillwyd hon gan Stefan Mohamed, o Bowys, gyda'i nofel Bitter Sixteen.[5]

Enillydd

Rhestr fer[7]

Enillydd

Rhestr fer[8]

Gwobr llenolion heb eu cyhoeddi

Enillydd

Rhestr fer

Enillydd

Rhestr fer[9]

Enillwyr yr hen wobr

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  About. The Dylan Thomas Prize.
  2.  Dylan Thomas Prize Shortlist Announced. New Writing International (22 Medi 2006).
  3.  Donate to the Prize. The Dylan Thomas Prize. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.
  4.  Richard Lea (11 Tachwedd 2008). £60,000 Dylan Thomas prize goes to globetrotting debut author. The Guardian.
  5.  Benedicte Page (2 Rhagfyr 2010). Dylan Thomas prize goes to US poet.
  6.  Nofel gyntaf yn ennill Gwobr Dylan Thomas i'r Americanes Maggie Shipstead. BBC (9 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2012.
  7. "Top 5 Under 30: Dylan Thomas Prize Shortlist Highlights the Rising Stars of the Literary World" (PDF) (Press release). The University of Wales Dylan Thomas Prize. October 19, 2012. http://www.dylanthomasprize.com/documents/webversionDTPShortlistAnnouncement2012.pdf. Adalwyd November 11, 2012.[dolen farw]
  8.  2010 University of Wales Dylan Thomas Prize Shortlist Announced. The Dylan Thomas Prize. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.
  9.  Rhestr fer 2006. The Independent.
  10.  Carol Ann Duffy. The Laugharne Weekend. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.
  11.  Whats on in Cumbria > Word Party 3. BBC.
  12.  Sir Andrew Motion, FRSL. Debrett's. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.
  13.  Rose Tremain. Random House Reader's Group. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.
  14.  Ms Rose Tremain, CBE. Debrett's. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.

Dolenni allanol

golygu