Bardd Americanaidd toreithiog oedd Gwendolyn Brooks (7 Mehefin 1917 - 3 Rhagfyr 2000) oedd hefyd yn nofelydd ac athrawes. Mae ei gwaith yn delio gydag anawsterau a phroblemau sy'n wynebu pobl gyffredin UDA o ddydd i ddydd. Enillodd Wobr Pulitzer am Farddoniaeth ar Galan Mai 1950 am ei chyfrol Annie Allen, y tro cyntaf i fenyw Americanaidd gipio'r wobr.[1][2] Mae ei henw bedydd "Gwendolyn" yn enw Cymreig.

Gwendolyn Brooks
Ganwyd7 Mehefin 1917 Edit this on Wikidata
Topeka Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 2000 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Man preswylIllinois, South Side, Topeka, Michigan Boulevard Garden Apartments Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Academi Paratol, Technegol Englewood
  • Ysgol Uwchradd Academi Hyde Park
  • Coleg Kennedy–King
  • Wendell Phillips Academy High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, nofelydd, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Chicago State University
  • NAACP Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLangston Hughes, Richard Wright Edit this on Wikidata
PlantNora Brooks Blakely Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Y Medal Celf Cenedlaethol, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Langston Hughes, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Bardd Llawryfog yr Unol Daleithiau, Medal Robert Frost, Darlith Jefferson, Gwobr Goffa Eunice Tietjens, Gwobr Hall Of Fame Llenyddiaeth y Duon, Gwobr Rhyddid Kuumba, Cymrodoriaeth Academi Beirdd America, Shelley Memorial Award, Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Topeka, Kansas a bu farw o ganser yn ei chartref yn Chicago; claddwyd hi ym Mynwent Lincoln.

Trwy gydol ei gyrfa fel awdur, derbyniodd Brooks lawer mwy o anrhydeddau. Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog Illinois ym 1968, swydd a ddaliodd hyd ei marwolaeth, a'r hyn a elwir bellach yn "Fardd Llawryfog Llyfrgell y Gyngres" (Poetry to the Library of Congress) ar gyfer y tymor 1985–86. Yn 1976, hi oedd y fenyw Affricanaidd-Americanaidd gyntaf a gafodd ei derbyn i Academi Celfyddydau a Llythrenau America.[3][4][5]

Magwraeth a gwaith golygu

Ganwyd Brooks yn Topeka, Kansas lle roedd ei thad, oedd yn lanhawr, wedi gobeithio dilyn gyrfa fel meddyg ond aberthodd y freuddwyd honno i briodi a magu teulu. Roedd ei mam yn athrawes ysgol yn ogystal â phianydd cyngerdd wedi'i hyfforddi mewn cerddoriaeth glasurol.[2]

Yn ôl chwedloniaeth y teulu, roedd hen-daid Brooks wedi dianc rhag caethwasiaeth i ymuno â lluoedd yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America.[6][7]

Pan oedd yn chwech oed symudodd y teulu i Chicago, lle bu'n byw gweddill ei bywyd. Roedd ei rhieni, yn enwedig ei mam, yn ei hannog i farddoni. Dechreuodd gyflwyno cerddi i wahanol gyhoeddiadau, pan oedd yn ei harddegau. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Academi Paratol, Coleg Technegol Englewood, Ysgol Uwchradd ac Academi Hyde Park a Choleg Kennedy–King.[8][9][10][11][12][13][14][15][16]

Yn 1939, priododd Henry Lowington Blakely, Jr,[5] a chawsant ddau o blant: Henry Lowington Blakely III, a Nora Brooks Blakely.[2] Bu farw ei gŵr yn 1996.[17]

Daliodd ati i sgwennu ar ôl priodi a chael plant, ac yn y diwedd daeth o hyd i farchnad sylweddol ar gyfer ei cherddi. Arweiniodd y gydnabyddiaeth hon o'i gwaith hefyd at ddarlithio mewn prifysgolion ac addysgu darpar awduron. Gan ei bod yn enillydd gwobrau lluosog am ei hysgrifennu, mae sawl ysgol a sefydliad wedi'u henwi ar ei hôl.[18]


Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1946), Y Medal Celf Cenedlaethol, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1988), Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (1950), Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Langston Hughes (1979), Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf (1969), Bardd Llawryfog yr Unol Daleithiau (1985), Medal Robert Frost (1989), Darlith Jefferson (1994), Gwobr Goffa Eunice Tietjens, Gwobr Hall Of Fame Llenyddiaeth y Duon (1998), Gwobr Rhyddid Kuumba (1969), Cymrodoriaeth Academi Beirdd America (1999), Shelley Memorial Award (1976), Gradd er anrhydedd o Goleg Spelman (1986)[19][20][21][22][23][24][25][26][27][28] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Banks, Margot Harper (2012). Religious allusion in the poetry of Gwendolyn Brooks. McFarland & Co. t. 3. ISBN 9780786449392.
  2. 2.0 2.1 2.2 Watkins, Mel (December 4, 2000). "Gwendolyn Brooks, Whose Poetry Told of Being Black in America, Dies at 83". The New York Times. Cyrchwyd 13 Medi 2012. Gwendolyn Brooks, who illuminated the black experience in America in poems that spanned most of the 20th century, winning the Pulitzer Prize in 1950, died yesterday at her home in Chicago. She was 83.
  3. "Illinois Poet Laureate". Archifwyd o'r gwreiddiol ar Chwefror 28, 2015. Cyrchwyd Mawrth 6, 2015. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  4. "Poet Laureate Timeline: 1981–1990". Library of Congress. 2008. Cyrchwyd 19 Hydref2008. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. 5.0 5.1 Busby, Margaret, "Gwendolyn Brooks — Poet who called out to black people everywhere", The Guardian, 7 Rhagfyr, 2000.
  6. Kniggendorf, Anne. "Renowned Poet Gwendolyn Brooks' Time In Kansas Was Short, But Worth A Birthday Party". kcur.org. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017.
  7. Kent (1993). A Life of Gwendolyn Brooks. tt. 1–2.
  8. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120275614. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  9. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120275614. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2000/12/05/books/gwendolyn-brooks-83-passionate-poet-dies.html. http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html.
  10. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Gwendolyn Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Elizabeth Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". https://cs.isabart.org/person/139862. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 139862.
  11. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120275614. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gwendolyn Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Elizabeth Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gwendolyn Brooks". https://cs.isabart.org/person/139862. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 139862.
  12. Man geni: http://www.nytimes.com/2000/12/05/books/gwendolyn-brooks-83-passionate-poet-dies.html. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2016.
  13. Grwp ethnig: https://philamuseum.libguides.com/blog/Gwendolyn-Brooks.
  14. Man gwaith: https://philamuseum.libguides.com/blog/Gwendolyn-Brooks.
  15. Galwedigaeth: http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html. http://www.nytimes.com/2000/12/05/books/gwendolyn-brooks-83-passionate-poet-dies.html. https://cs.isabart.org/person/139862. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 139862. http://muse.jhu.edu/journals/modern_fiction_studies/v047/47.1rabinowitz.html. https://cs.isabart.org/person/139862. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 139862.
  16. Anrhydeddau: https://www.gf.org/fellows/all-fellows/gwendolyn-brooks/. https://www.womenofthehall.org/inductee/gwendolyn-brooks/. http://www.pulitzer.org/prize-winners-by-year/1950. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2016. https://www.loc.gov/about/awards-and-honors/living-legends/gwendolyn-brooks/. https://www.ccny.cuny.edu/lhf/medallion-recipients. dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2016. http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html. dyddiad cyrchiad: 4 Mawrth 2017. https://www.chicagotribune.com/news/ct-xpm-1998-12-10-9905150038-story.html. dyddiad cyrchiad: 26 Mawrth 2021. https://poets.org/academy-american-poets/prizes/academy-american-poets-fellowship. https://psa.fcny.org/psa/awards/frost_and_shelley/shelley_winners/. https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2.
  17. Heise, Kenan (6 Gorffennaf 1996). "Henry Blakely, 79, `Poet Of 63d Street'". Chicago Tribune (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-12.
  18. Williams, Kenny Jackson (2001). "Brooks, Gwendolyn". In Andrews, William L.; Foster, Frances Smith; Harris, Trudier (gol.). The Concise Oxford Companion to African American Literature. Oxford University Press. t. 47. ISBN 9780198031758. Cyrchwyd August 23, 2014.
  19. https://www.gf.org/fellows/all-fellows/gwendolyn-brooks/.
  20. https://www.womenofthehall.org/inductee/gwendolyn-brooks/.
  21. http://www.pulitzer.org/prize-winners-by-year/1950. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2016.
  22. https://www.loc.gov/about/awards-and-honors/living-legends/gwendolyn-brooks/.
  23. https://www.ccny.cuny.edu/lhf/medallion-recipients. dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2016.
  24. http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html. dyddiad cyrchiad: 4 Mawrth 2017.
  25. https://www.chicagotribune.com/news/ct-xpm-1998-12-10-9905150038-story.html. dyddiad cyrchiad: 26 Mawrth 2021.
  26. https://poets.org/academy-american-poets/prizes/academy-american-poets-fellowship.
  27. https://psa.fcny.org/psa/awards/frost_and_shelley/shelley_winners/.
  28. https://www.spelman.edu/docs/honorary-degrees/honorary-degree-recipients---1977-present---as-of-november-2022---revised-(012023).pdf?sfvrsn=f4347e51_2.