Gwerfyl Roberts

academydd

Academydd yw Gwerfyl Roberts (ganed 1956) sy'n adnabyddus am ei gwaith yn codi ymwybyddiaeth am yr angen am wasanaethau gofal iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg, a'i gwaith ym maes addysg uwch i ddatblygu darpariaeth addysg nyrsio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu'n uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor ac yn gyfarwyddwr ar ganolfan ymchwil LLAIS yno cyn ei hymddeoliad yn 2017.

Gwerfyl Roberts
Ganwyd1956 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata

Fe'i magwyd yn Llanbrynmair a'r Trallwng yn Sir Drefaldwyn, yn ferch i Elwyn Davies, prifathro ysgol, a Nest Pierce Roberts, golygydd cyntaf papur bro Plu'r Gweunydd. Mae ganddi chwaer, Sioned, a brawd, Huw. Mae'n byw yn y Groeslon gyda'i gŵr Gareth, ac mae ganddynt dri o blant sydd wedi tyfu i fyny, sef Tomos, Elin ac Alys.

Bu Gwerfyl yn aelod o nifer o weithgorau a thasgluoedd llywodraethol gan gynnwys Grŵp Gweinidogol y Llywodraeth ar y Gymraeg yn y Gwasanaethau Iechyd a Gofal. Fe'i hurddwyd i'r Wisg Las yng Ngorsedd y Beirdd yn 2017 ac yn Gymrawd er Anrhydedd i'r Coleg Cymraeg yn 2018.[1][2][3][4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cymrodyr y Coleg Cymraeg - Gwerfyl Roberts". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-17. Cyrchwyd 2023-02-17.
  2. Beti a'i Phobol - Gwerfyl Roberts
  3. "Urddo dau gymrawd er anrhydedd newydd i'r Coleg Cymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-17. Cyrchwyd 2023-02-17.
  4. Cyhoeddi Urddau’r Orsedd, Ynys Môn