Papur Bro
Papurau cymunedol Cymraeg a gyhoeddir fel arfer yn fisol ac a gynhyrchir gan wirfoddolwyr yw Papurau Bro. Y cyntaf i'w sefydlu oedd Y Dinesydd yn 1973 yng Nghaerdydd. O fewn blwyddyn sefydlwyd pedwar arall: Papur Pawb yn Nhal-y-bont, Llais Ogwan ym Methesda, Clebran yn ardal y Preseli a Pethe Penllyn yn ardal Llanuwchllyn. Erbyn heddiw mae dros hanner cant o bapurau bro ar gael.
Math | community newspaper |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Mae gan yr holl bapurau bro gylchrediad o oddeutu 35,950 o gopïau'r mis.[1]
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 galwodd Leighton Andrews, y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a chyfryngau digidol am ragor o gefnogaeth i bapurau bro:
"Mae'r Papurau Bro yn draddodiad pwysig yng Nghymru, ond wrth i fwy o bobl droi at y dechnoleg newydd am eu newyddion, mae'n hanfodol eu bod yn defnyddio'r dulliau newydd hyn o gyfathrebu. Mae nifer o gyfleoedd ar gael i helpu'r broses o gyhoeddi'r Papurau Bro i symud â'r oes, o'r dylunio a'r cysodi i ddefnyddio Hyperlocal i'w hyrwyddo. Mae llawer iawn o dechnoleg ar gael i'w gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach a rhoi lle i leisiau newydd." [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-12-07. Cyrchwyd 2016-07-01.
- ↑ Galw am ehangu apêl papurau bro Gwefan y BBC adalwyd 29 Medi 2012.