Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan
Canolfan breswyl aml weithgaredd yw Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan. Lleolir y gwersyll ym mhentref Pentre Ifan ger Felindre Farchog yn Sir Benfro a'i hagor yn swyddogol ym mis Medi 2023.[1] Dyma pedwerydd Gwersyll yr Urdd, ynghyd â gwersylloedd adnabyddus Llangrannog, Glan-llyn a Bae Caerdydd. Mae'r safle o fewn pymtheg milltir i Wersyll yr Urdd Llangrannog.
Math | cyrchfan |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Felindre Farchog |
Gwlad | Cymru |
Enwir y gwersyll ar ôl cromlech Pentre Ifan ger llaw.
Nod
golyguNod y gwersyll yw blaenoriaethu'r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc a'r Gymraeg.
Galwa'r Urdd y safle yn Wersyll Amgylchedd a Lles. Credir mai dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, gyda'r profiad yn addo i fod yn "ddihangfa rhag y byd digidol" i wersyllwyr. Prif bwyslais y ganolfan ger Felindre Farchog yw cynnig addysg amgylcheddol i blant a phobl ifanc.[1]
Mae'r safle hefyd ar gael ar gyfer llogi i gynnal priodasau.[2]
Sefydlu
golyguAgorwyd canolfan Pentre Ifan yn wreiddiol yn 1992 a hynny fel canolfan addysgol. Derbyniodd yr Urdd gyllid trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru, i droi Canolfan Pentre Ifan i fod yn wersyll.[1]
Y Safle
golyguRhennid y Gwersyll yn bum adeilad:
- Cwt Carningli - llety newydd y safle sydd yn cynnwys 5 ystafell ensuite. Mae un o'r ystafelloedd hyn yn cynnwys cyfleusterau anabl ac mae lle i hyd at 32 o bobl, neu 37 o defnyddio'r gwlâu dwbl ar gyfer dau berson.
- Y Porthdy - adeilad hynaf y safle a oedd arfer bod yn borthdy yng nghyfnod y Tuduriaid- mae hi wedi bod yno ers 1485. Mae dwy ystafell gwely ar gael yn yr adeilad yma gyda chyfleusterau ymolchi gerllaw ac yn cysgu hyd at 12.
- Neuadd y Porthdy - neuadd i hyd at 50 i fwyta, ymlacio a chymryd rhan mewn rhai o weithdai a gweithgareddau'r gwersyll.
- Y Berllan - pabell saffari yn ardal glampio'r berllan gan golygfa o Garnedd Meibion Owen o'r feranda. Mae tair pabell ar gael, dwy gyda lle i 10 o bobl yr un ac un babell gyda lle i hyd at 6 gyda chyfleusterau ymolchi ac ardal goginio gyfagos. Mae lle i hyd at 26 o bobl.
- Cegin Allanol Cymdeithasol - tu allan i Gwt Carningli mae ardal gysgodol lle mae gegin awyr agored ar gael i’w ddefnyddio sy'n cynnwys popty pitsa, crochan, barbeciw a sinc, gardd perlysiau a lle i fwyta a chymdeithasu.
- Llecynnau Lles - o gylch y safle ceir ardaloedd cysgodol naturiol lle gall ymwelwyr ddianc am sgwrs, cyfnod o fyfyrio neu ymlacio a mwynhau’r tawelwch.[3]
Nofel antur
golyguYn 2012 cyhoeddwyd nofel ar gyfer plant a'r arddegau gan Gareth Lloyd James o'r enw Dirgelwch Pentre Ifan a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer. Mae'n dilyn anturiaethau pedwar bachgen ifanc yn y gwersyll. Mae'n rhan o gyfres o nofelau eraill wedi eu lleoli yng ngwersylloedd yr Urdd.[4]
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Manylion y gwersyll ar wefan yr Urdd
- @PentreIfan tudalen Facebook y Gwesyll
- Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan fideo hyrwyddo ar sianel Youtube yr Urdd (2024)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Urdd: Agor gwersyll newydd ym Mhentre Ifan, Sir Benfro". BBC Cymru Fyw. 28 Medi 2023.
- ↑ "Priodi ym Mhentr Ifan". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
- ↑ "Llety a Chyfleusterau". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
- ↑ "Cyfres Cawdel: Dirgelwch Pentre Ifan". Gwales.Com. Cyrchwyd 9 Medi 2024.